Ceridwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Ceridwen
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Ceridwen; cosmetic changes
Llinell 2:
Cymeriad chwedlonol Gymreig yw '''Ceridwen'''. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl ''[[Hanes Taliesin]]''. Yn y chwedl honno, mae hi'n wyddones sy'n byw ar lan [[Llyn Tegid]] ac yn wraig i [[Tegid Foel]]. Yn ôl rhai dehonglwyr myth, gellid ei hystyried yn agwedd ar y [[Mam-dduwies|Fam-dduwies]] ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid i Brydain. Yn y Traddodiad Barddol Cymreig, Pair Ceridwen yw ffynhonnell yr [[Awen]] a phob Gwybodaeth.
 
== Etymoleg ==
Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', oedd Cyrridfen (o ''cyrrid-'' "rhywbeth cam"? + ''ben'' "gwraig, benyw"). Ond mae ''gwen'' yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau Cymreig ([[Gwenffrewi]], [[Dwynwen]], er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel [[Gwenhwyfar]] a [[Branwen]]. Rhydd [[Rachel Bromwich]] "''teg ac annwyl''" fel ystyr yr enw Ceridwen. Yn ôl pob tebyg, roedd Ceridwen yn dduwies [[Celtaidd|Geltaidd]] yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr [[llên gwerin]].
 
== Y chwedl ==
[[Delwedd:Pair Ceridwen 00.JPG|300px|bawd|Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)]]
Yn y chwedl ''Hanes Taliesin'' (neu ''Ystoria Taliesin''<ref>Ford, ''Ystoria Taliesin''.</ref>), mae Ceridwen yn wraig i [[Tegid Foel|Degid Foel]] ac yn byw ym [[Penllyn|Mhenllyn]] ar lan [[Llyn Tegid]] (ger [[Y Bala]] heddiw). Fe'i cysylltir â [[dŵr]] a pherlysiau "rhinweddol" (h.y. sy'n iachau neu sy'n gysylltiedig â grymoedd hud a lledrith). Mae hi'n berwi'r llysiau mewn [[pair]] "am undydd a blwyddyn" ar lan y llyn ar gyfer ei mab [[Morfran]] (a lysenwir 'Afagddu' am ei fod mor hyll). Yn ogystal mae ganddi ferch hardd o'r enw [[Creirwy]], sy'n un o "Dair Gwenriain Ynys Brydain" yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]].
Llinell 11:
Mae'r bortread o Geridwen yn berwi ei pherlysiau yn y pair yn debyg i'r disgrifiadau traddodiadol o [[gwrach|wrachod]] (fel y tair gwrach yn ''[[Macbeth]]'' [[Shakespeare]]). Mae'n debyg mai duwies [[Natur]] gyda galluoedd creadigol a dinistriol oedd hi, fel [[Hecate]] ym [[mytholeg Roeg]]. Mae hi'n newid rhith wrth geisio dal Gwion Bach/Taliesin, gan newid yn filiast, yn iâr ac yn bysgodyn, ac mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn cynrychioli Natur.
 
== Tystiolaeth y beirdd ==
Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd [[Taliesin]], yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr [[Awen]] ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd. Cyfeirir at Ceridwen a'i phair, ac at y Taliesin chwedlonol fel bardd Elffin, yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion, e.e. [[Cynddelw Brydydd Mawr]] yn y 12fed ganrif.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', tud. 309.</ref> Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at Bair Ceridwen mewn rhai o'r cerddi chwedlonol a dadogir ar Daliesin yn ''[[Llyfr Taliesin]]''.<ref>J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Taliesin'' (Llanbedrog, 1910), 33.10; 27.13-14; 33.10.</ref> Mae'n bosibl bod rhai o'r cerddi hyn yn dyddio o tua'r 10fed ganrif.
 
== Dehongliadau modern ==
Cytunodd Syr [[John Rhys]], yn 1878, â damcaniaeth myth yr Haul yr ysgolhaig Almaenig [[Max Muller]], sy'n honni "mai duwiesau'r wawr yw [[Gwenhwyfar]] a Ceridwen."<ref>John Rhys, ''Lectures on Welsh Philology'', Trübner, 1879, tud. 305.</ref> Yn ei lyfr dylanwadol ''The White Goddess'' ac ysgrifau eraill, ceisiodd [[Robert Graves]] weithio Ceridwen i mewn i'w gysyniad am y Dduwies Driphlyg, gan weld ynddi agwedd ddinistriol y dduwies honno.<ref>Ronald Hutton, ''The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft'', Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001, tud. 192.</ref>
 
Mae dilynwyr [[Wica]] yn gweld Ceridwen - weithau wrth yr enw 'Ceridwyn', nad oes sail iddi yn y traddodiad Cymreig - yn dduwies gyda'i phair yn symbol o'r egwyddor fenywaidd sanctaidd.<ref>[http://paganwiccan.about.com/od/godsandgoddesses/p/Cerridwen.htm Cerridwen: Keeper of the Cauldron]</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Llyfryddiaeth ==
* Rachel Bromwich, ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd 1991)
* Patrick K. Ford, ''Ystoria Taliesin'' (Caerdydd, 1992)
* Ifor Williams, ''Chwedl Taliesin'' (Caerdydd, 1957)
 
[[Categori:Duwiesau]]
Llinell 33:
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]]
 
[[br:Ceridwen]]
[[de:Ceridwen]]
[[el:Κέριντγουεν]]