Rhuddlan Teifi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
Amlwd bychan yn ne [[Ceredigion]], tua dwy filltir i'r gorllewin o [[Llanybydder|Lanybydder]] ar y ffordd i [[Llandysul|Landysul]] yw '''Rhuddlan Teifi''' (ceir sawl amrywiad ar yr enw, yn cynnwys '''Rhuddlan Deifi''', '''Pentre Rhuddlan''' neu '''Rhuddlan''' yn unig). Mae'n gorwedd ar lan ogleddol [[Afon Teifi]].
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
| gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth
| aelodcynulliad = {{Swits Ceredigion‎ i enw'r AC}}
| aelodseneddol = {{Swits Ceredigion‎ i enw'r AS}}
}}
AmlwdPentrefan (neu 'amlwd' bychan) yn ne [[Ceredigion]], tua dwy filltir i'r gorllewin o [[Llanybydder|Lanybydder]] ar y ffordd i [[Llandysul|Landysul]] yw '''Rhuddlan Teifi''' (ceir sawl amrywiad ar yr enw, yn cynnwys '''Rhuddlan Deifi''', '''Pentre Rhuddlan''' neu '''Rhuddlan''' yn unig). Mae'n gorwedd ar lan ogleddol [[Afon Teifi]].
 
Prin bod Rhuddlan yn haeddu cael ei ddisgrifio fel 'amlwd' hyd yn oed, oherwydd does dim mwy na hanner dwsin o dai a ffermydd yno, ond mae ganddo le diddorol ym mytholeg Cymru. Ym ''[[Math fab Mathonwy]]'', pedwaredd gainc y [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]], lleolir llys [[Pryderi]] mab [[Pwyll Pendefig Dyfed]] yn Rhuddlan Teifi. Yn y chwedl, mae Pryderi yn arglwydd ar saith cantref [[Morgannwg]] yn ogystal â [[Dyfed]], [[Teyrnas Ceredigion|Ceredigion]] ac [[Ystrad Tywi]]. Daw [[Gwydion ap Dôn]] i lawr o [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] i'w lys yn Rhuddlan Teifi yn rhith bardd i geisio'r moch hud a lledrith a gafodd Pryderi gan [[Arawn]], brenin [[Annwfn]]. Mae Gwydion yn rhithio ceffylau, milgwn a thariannau, ac yn eu cyfnewid am y moch. Y diwrnod wedyn, mae'r ceffylau, milgwn a thariannau hynny yn diflannu. Mae hyn yn arwain at ryfel rhwng Dyfed a Gwynedd, sy'n diweddu gyda ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion yn y gogledd. Lleddir Pryderi, a chaiff ei gladdu ym [[Maentwrog]].