Pinc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Pink"
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Rosa Queen Elizabeth1ZIXIETTE.jpg|thumb|Yn y mwyafrif o ieithoedd Ewropeaidd, mae pinc yn cael ei alw'n rose neu rosa, ar ol y blodyn.]]
<span>Lliw coch golau, gwan neu ysgafn yw </span>'''pinc'''. Mae'r gair Saesneg 'pink' yn tarddu o liw'r blodyn o'r un enw (''Dianthus̠''), ond mae hwnnw yn cael ei alw yn penigan yn hytrach na phinc yn Gymraeg.<ref>''Shorter Oxford English Dictionary'', 5th Edition, Oxford University Press.</ref><ref>''Webster New World Dictionary'', Third College Edition: "Any of a genus (''Dianthus'') of annual and perennial plants of the pink family with white, pink or red flowers.; its pale red color."</ref> Mewn nifer fawr o ieithoedd Ewropeaidd, mae pinc yn cael ei alw'n rose neu rosa ar ol y rhosyn, ac mae '''rhosliw''' hefyd wedi'i ddefnyddio yn y Gymraeg. Yn y Saesneg, dechreuodd y gair gael ei ddefnyddio i gyfeirio at y lliw yn ystod y 17g.<ref>"pink, ''n.''⁵ and ''adj.''²", [//en.wikipedia.org/wiki/Oxford_English_Dictionary Oxford English Dictionary] Online</ref> Daw un o'r enghreifftiau cynharaf ohono yn y Gymraeg o ddisgrifiad William Williams (Pantycelyn) o'r Aurora Borealis yn 1774.  Yn ol arolygon yn Ewrop a'r Unol Daleithiau, mae'r lliw yn cael ei gysylltu yn aml a dengarwch, boneddigeiddrwydd, sensitifrwydd, tynerwch, anwylder, plentyndod, benyweiddiwch a'r rhamantus. Mae cyfuniad o binc a gwyn yn cael eu cysylltu a diweirdeb a diniweidrwydd, tra bod cyfuniad o binc a du yn cael ei gysylltu ag erotiaeth ac atyniad.<ref>Heller, Eva: ''Psychologie de la couleur – effets et symboliques'', pp. 179-184</ref>