Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|dde|200px|Gorymdaith hawliau LHDT yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd yn 1976]] Mae gan '''fudi...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
Ym aml, dywedir mai'r nod ar gyfer pobl LHDT ydy cydraddoldeb cymdeithasol; mae rhai hefyd wedi ffocysu ar adeiladu [[cymuned hoyw|cymunedau LHDT]], neu barhau i weithio am agwedau mwy rhyddfrydol tuag at rywioldeb. Mae'r mudiadau LHDT a drefnir heddiw yn cynnwys ystod eang o weithredu gwleidyddol a gweithgarwch diwylliannol, megis lobïo a gorymdeithiau stryd; grŵpiau cymdeithasol, grŵpiau cymorth a digwyddiadau yn y gymuned; [[cylchgrawn|cylchgronau]], [[ffilm|ffilmiau]] a [[llenyddiaeth]]; ymchwil academaidd; a hyd yn oed gweithgarwch ym myd busnes.
 
==Trosolwg==
[[delwedd:Taiwan Tongzhi Hotline Association on Taiwan Pride 2005.JPG|bawd|dde|Gweithwyr o Gymdeithas Llinell Gymorth Tongzhi [[Taiwan]] yn cymryd rhan yng ngorymdaith Balchder Taiwan yn [[Taipei]] yn 2005.]]
Ysgrifenna'r cymdeithasegwraig Mary Bernstein: "Bryd hynny, roedd nodau'r mudiad lesbiaid a hoywon yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) herio'r ddelwedd o wryweidd-dra benyweidd-dra, [[homoffobia]], a'r syniad o deulu niwclear heterorywiol (heteronormalrwydd). Roedd eu nodau gwleidyddol yn cynnwys newid y gyfraith a pholisïau er mwyn derbyn hawliau newydd, budd-daliadau ac amddifyniad rhag niwed."<ref>Bernstein, Mary (2002). Identities and Politics: Toward a Historical Understanding of the Lesbian and Gay Movement. Social Science History 26:3 (fall 2002). Cyfeithiad o'r dyfyniad</ref> Pwysleisia Bernstein fod ymgyrchwyr yn ceisio y ddau fath o nod yn y meysydd sifil a gwleidyddol.
 
Fel gyda mudiadau cymdeithasol eraill, ceir gwrthdaro o fewn a rhwng mudiadau LHDT, yn enwedig ynglyn â strategaethau ar gyfer newid. Ceir trafodaethau ynglyn ag i ba raddau y mae lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol yn wynebu'r un problemau ac am yr angen i gyd-weithio. Yn aml yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au, ceisiodd arweinyddion y mudiad lesbiaid a hoywon guddio lesbiaid gwrywaidd, dynion hoyw benywaidd, pobl trawsrywiol a deurywiol rhag y cyhoedd, gan greu rhaniadau mewnol o fewn cymunedau LHDT.
 
Yn aml, mae mudiadau LHDT wedi mabwysiadu math o wleidyddiaeth hunaniaeth sy'n ystyried pobl hoyw, deurywiol a/neu bobl trawsrywiol fel dosbarth penodol o bobl. Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r math yma o syniad yn anelu at nodau gwleidyddol rhyddfrydol fel rhyddid a chyfle cyfartal, gan anelu at wleidyddiaeth y brif ffrwd fel y wneir gan grŵpiau eraill yn y gymdeithas. Wrth ddadlau fod [[cyfeiriadedd rhywiol]] a [[hunaniaeth rhywiol]] yn rhan annatod o unigolyn ac na ellir ei newid, gwrthwynebir unrhyw ymgais i newid dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn heterorywiol ("[[therapi trawsnewid]]") gan y gymuned LHDT. Yn aml, seilir y therapi hyn ar gredoau crefyddol sy'n ystyried fod gweithgarwch dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn anfoesol.
 
{{eginyn LHDT}}