Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
Yn aml, mae mudiadau LHDT wedi mabwysiadu math o wleidyddiaeth hunaniaeth sy'n ystyried pobl hoyw, deurywiol a/neu bobl trawsrywiol fel dosbarth penodol o bobl. Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r math yma o syniad yn anelu at nodau gwleidyddol rhyddfrydol fel rhyddid a chyfle cyfartal, gan anelu at wleidyddiaeth y brif ffrwd fel y wneir gan grŵpiau eraill yn y gymdeithas. Wrth ddadlau fod [[cyfeiriadedd rhywiol]] a [[hunaniaeth rhywiol]] yn rhan annatod o unigolyn ac na ellir ei newid, gwrthwynebir unrhyw ymgais i newid dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn heterorywiol ("[[therapi trawsnewid]]") gan y gymuned LHDT. Yn aml, seilir y therapi hyn ar gredoau crefyddol sy'n ystyried fod gweithgarwch dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn anfoesol.
 
Fodd bynnag, mae eraill o fewn mudiadau LHDT wedi beirniadu gwleidyddiaeth hunaniaeth gan ddweud ei fod yn gyfyng a chyda gwendidau amlwg. Dadleua elfennau o'r mudiad "queer" fod y categorïau hoyw a lesbiad yn rhy gyfyng, a cheisiasant waredu'r categorïau hyn, sydd yn "atgyfnerthu yn hytrach na herio system ddiwylliannol a fydd bob amser yn ystyried pobl na sydd yn heterorywiol yn israddol."<ref>Bernstein (2002)</ref>
 
Ar ôl y [[Chwyldro Ffrengig]], arweiniodd teimlad gwrth-glerigol mewn gwledydd [[Catholigaeth|Catholig]] ynghyd a dylanwad rhyddfrydol y Cod Napoleanaidd, at wledydd yn ymbellhau wrth y [[deddf sodomiaeth|deddfau sodomiaeth]]. Fodd bynnag, mewn gwledydd [[Protestanaidd]], lle'r oedd ymateb yr eglwys yn llai llym, ni welwyd ymateb cyffredinol yn erbyn y deddfau a oedd wedi'u seilio ar grefydd. O ganlyniad, cadwodd nifer o'r gwledydd hynny eu deddfau sodomiaeth tan ddiwedd yr [20fed ganrif]]. Dadleuodd y rheithgorwr Natsiaidd [[Rudolf Klare]] am oruchafiaeth moesol y traddodiadau Tiwtonaidd gwrth-gyfunrywiol llym (megis yr [[Almaen]], [[Lloegr]] a'r thaleithiau'r [[Unol Daleithiau|Amerig]] dros wledydd LLadinaidd (megis [[Ffrainc]], [[Sbaen]], yr [[Eidal]] a [[Gwlad Pŵyl]]) a oedd wedi peidio a chosbi gweithgarwch cyfunrywiol.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn LHDT}}