Charles de Gaulle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
HerculeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: wuu:夏爾·戴高樂
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: am:ሻርል ደ ጎል; cosmetic changes
Llinell 9:
| rhagflaenydd=[[René Coty]]
| olynydd=[[Georges Pompidou]]
| prifweinidog=[[Michel Debré]]<br /> [[Georges Pompidou]]<br /> [[Maurice Couve de Murville ]]
| dyddiad_geni=[[22 Tachwedd]] [[1890]]
| lleoliad_geni=[[Lille]]
Llinell 20:
Gwleidydd a chadfridog o [[Ffrainc]] oedd '''Charles André Joseph Marie de Gaulle''' ([[22 Tachwedd]], [[1890]] - [[9 Tachwedd]], [[1970]]). Fe'i ganwyd yn [[Lille]]. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr [[20fed ganrif]].
 
== Gyrfa gynnar ==
Roedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y [[1930au]] pan gyhoeddodd ei lyfr ''Vers l'armeé de métier'' ([[1934]]), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn [[1940]] pan dorrodd [[yr Ail Ryfel Byd]] allan. Roedd yn aelod o gabinet [[Paul Reynaud]] ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.
 
== Yr Ail Ryfel Byd ==
Yn dilyn cwymp Ffrainc i fyddin [[yr Almaen]] yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw [[Ffrainc Rydd]]. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle â llywodraethau [[Prydain Fawr]] ac [[UDA|America]]. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn [[1943]] fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn [[Algiers]]. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o [[1945]] hyd ei ymddeoliad ohono yn [[1946]].
 
== Y cyfnod ôl-ryfel ==
Yn [[1947]] sefydlodd y ''[[Rassemblement du Peuple Français]]'' ond nid oedd yn llwyddianus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo yn [[1953]]. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod ond cafodd ei alw i arwain ei wlad oherwydd yr argyfwng yn [[Rhyfel Annibyniaeth Algeria|Algeria]] yn [[1958]]. Roedd nifer o'r ymsefydlwyr Ffrengig yn y wlad honno yn gwrthryfela yn erbyn llywodraeth Ffrainc am eu bod yn ofni annibyniaeth.
 
== Diwrnod y Siacal ==
Ym Medi [[1961]] ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr [[Organisation de l'Armée secrète]] (OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i [[Algeria]]. Seiliodd y nofelydd [[Frederick Forsyth]] ei nofel [[Day of the Jackal]] ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn [[1973]] yn ogystal.
 
== Ar lwyfan y byd ==
Wedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn [[1962]], canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r [[Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwcliar]] yn [[1963]] a thynnodd Ffrainc allan o [[NATO]] yn [[1966]]. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno â'r [[EEC]].
 
== Problemau domestig ==
Ond wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth [[Terfysg Paris 1968|Mai, 1968]] gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn [[1969]] yn sgîl colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.
 
== Ei ddylanwad ==
Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth yn [[1970]] roedd ei polisïau ''[[Gaullist]]'' yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.
 
Llinell 45:
 
{{dechrau-bocs}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Michel Debré]] | teitl = [[Prif Weinidogion Ffrainc|Prif Weinidog Ffrainc]] | blynyddoedd = [[1 Mehefin]] [[1958]] &ndash; [[8 Ionawr]] [[1959]]| ar ôl = [[Michel Debré]]}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[René Coty]] | teitl = [[Arlywyddion Ffrainc|Arlywydd Ffrainc]] | blynyddoedd = [[8 Ionawr]] [[1959]] &ndash; [[28 Ebrill]] [[1969]]| ar ôl = [[Georges Pompidou]]}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[René Coty]] a [[Ramon Iglesias i Navarri]]| teitl = [[Hanner-Tywysog Andorra]] | blynyddoedd = [[1959]] &ndash; [[1969]] <br />''gyda Ramon Iglesias i Navarri''| ar ôl = [[Georges Pompidou]] a<br />[[Ramón Malla Call]]}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{Comin|Charles de Gaulle}}
 
[[CategoryCategori:Arlywyddion Ffrainc|Gaulle, Charles de]]
[[CategoryCategori:Genedigaethau 1890|Gaulle, Charles de]]
[[CategoryCategori:Marwolaethau 1970|Gaulle, Charles de]]
[[Categori:Prif Weinidogion Ffrainc|Chirac, Jacque]]
 
Llinell 62:
 
[[af:Charles de Gaulle]]
[[am:ሻርል ደ ጎል]]
[[an:Charles de Gaulle]]
[[ar:شارل ديغول]]