Lleng Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: da:Legion (Rom)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tl:Lehiyong Romano; cosmetic changes
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:Roman_legion_at_attack_3.jpg|240px|thumb|Lleng yn paratoi i ymosod (actorion o [[Pram]] ([[Awstria]])]]
Y '''Lleng Rufeinig''' (o'r [[Lladin]] ''legio'') oedd prif uned filwrol y fyddin Rufeinig. Yn oes aur yr [[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth]] yr oedd yn cynnwys rhwng 5,000 a 6,000 o wŷr traed; yn ddiweddarach hyd 8.000 o wŷr traed a marchogion yn ychwanegol. Yr oedd gan bob lleng rif, ac fel rheol enw hefyd (gweler [[Rhestr Llengoedd Rhufeinig]]). Mae hanes am tua 50 o lengoedd, ond ni fu mwy na 28 mewn bodolaeth ar yr un pryd.
 
Y lleng oedd sylfaen yr ymerodraeth, ac anaml y gallai eu gelynion eu gwrthsefyll mewn brwydr. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'u gwrthwynebwyr, yr oedd y llengfilwyr yn filwyr proffesiynol oedd wedi dewis y fyddin fel gyrfa.
 
== Hanes ==
[[ImageDelwedd:Centurio_70_aC.jpg|200px|thumb|Canwriad o tua 70 O.C.]]
[[ImageDelwedd:Relief_Kolumna_Trajana.jpg|200px|thumb|Llengfilwyr Rhufeinig ar golofn Trajan]]
Yn oes [[brenhinoedd Rhufain]], yr oedd y gair ''legio'' yn cyfeirio at holl fyddin Rhufain, hynny yw y dinesyddion wedi eu galw i ymladd. Yn ddiweddarch yn ystod y [[Y Weriniaeth Rufeinig|Weriniaeth Rufeinig]] yr oedd y fyddin weithiau yn cael ei rhannu'n ddwy, pob rhan dan arweiniad un o'r ddau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]]. Yn ddiweddarach, yn ystod y bedwaredd ganrif cyn Crist, sefydlwyd y llengoedd yn fwy ffurfiol.
 
Llinell 13:
Ar adegau yr oedd gan y llengoedd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth Rhufain, er enghraifft yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdr]] pan geisiodd llengoedd mewn gwahanol rannau o'r ymerodraeth sefydlu eu ffefrynnau eu hunain fel ymerawdr. Oherwydd hyn, gallai unrhyw gadfridog a allai ennill teyrngarwch nifer o lengoedd iddo ef ei hun yn bersonol fod yn beryglus i'r ymerawdr.
 
== Trefniant Lleng ==
Roedd pob lleng yn cael ei harwain gan ''[[legatus]]''. Roedd y rhain yn aelodau o deuluoedd mwyaf aristocrataidd Rhufain ac a pherthynas agos a'r ymerawdr. Fel rheol yr oeddynt yn cael y swydd yma pan oeddynt tua deg ar hugain oed. O danynt hwy yr oedd y ''[[tribunes militares]]''. O'r rhain yr oedd un yn aelod o deulu aristocrataidd ac yn gweithredu fel dirprwy i'r legatus, a'r pump arall yn dod o deuloedd llai aristocrataidd ond yn dal yn uchelwyr.
 
O danynt hwy, ac yn ffurfio asgwrn cefn y lleng, yr oedd y milwyr proffesiynol, oedd yn gwneud gyrfa yn y fyddin. Yr uchaf o'r rhain oedd y ''praefectus castrorum'' (pennaeth y gwersyll), ac yn nesaf ato y ''primus pilus'', sef yr uchaf o'r [[Canwriad|canwriaid]] mewn safle. Yna yr oedd y canwriaid eraill, gyda swyddogion eraill a elwid yn ''optio'' yn eu dilyn. Yr oedd nifer o fân swyddogion megis y ''tesserarius'', a swyddi megis daliwr y faner. Yna deuai'r llengfilwyr cyffredin. Roedd y rhain yn filwyr proffesiynol ar gyflog, wedi eu hyfforddi a'u disgyblu'n ofalus.
Llinell 21:
 
== Darllen pellach ==
* ''History of the Art of War. Vol 1. Ancient Warfare, Hans Delbrück
* ''Roman Warfare'', Adrian Goldsworthy
* ''History of Warfare'', John Keegan
* ''Greece and Rome at War'', Peter Connolly
* ''The Encyclopedia Of Military History: From 3500 B.C. To The Present. (2nd Revised Edition 1986)'', R. Ernest Dupuy, a Trevor N. Dupuy.
* ''War'', Gwynne Dyer
* ''The Evolution of Weapons and Warfare'', Trevor N. Dupuy
* [[Flavius Vegetius Renatus]], ''De Re Militari''
* [[Iŵl Cesar]], ''[[De Bello Gallica]]''
* William Smith, D.C.L., LL.D.: ''A Dictionary of Greek and Roman Antiquities'', John Murray, Llundain, 1875.
* ''The Punic Wars'', Adrian Goldsworthy.
* ''Carnage and Culture'', Victor Davis Hanson
* ''The Fall of the Roman Empire: The Military Explanation'', Arthur Ferrill, 1988
* ''The Complete Roman Army'', Adrian Goldsworthy
* ''The Military System Of The Romans'', Albert Harkness
* ''From the Rise of the Republic and the Might of the Empire to the Fall of the West'', Nigel Rodgers
 
== Gweler hefyd ==
* [[Yr Ymerodraeth Rufeinig]]
* [[Rhestr Llengoedd Rhufeinig]]
 
[[Categori:Llengoedd Rhufeinig| ]]
Llinell 83:
[[sr:Римска легија]]
[[sv:Romersk legion]]
[[tl:Lehiyong Romano]]
[[tr:Roma lejyonu]]
[[uk:Легіон]]