Hilary Jenkinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD, replaced: 'roedd → roedd using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
| image = Sir Charles Hilary Jenkinson.jpg
}}
 
GanwydArchifydd Seisnig '''Syr Charles Hilary Jenkinson''' ([[1 Tachwedd]] [[1882]] – [[5 Mawrth]] [[1961]]). Fe'i ganwyd yn [[Streatham]], [[Llundain]]. Fe'i addysgwyd yng [[Coleg Dulwich|Ngholeg Dulwich]] ac wedyn, [[Coleg Penfro, Caergrawnt]]. Ymunodd â staff yr [[Archifdy Gwladol]] ym 1906, ac ar wahân i wasanaeth milwrol yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], a chyfnod byr yn Swyddfa Ryfel y Llywodraeth Brydeinig, yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1954. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] bu'n ymgynghorydd Swyddfa'r Rhyfel ar faterion archifol, yn cynghori ar dynged [[archifau]] y daethpwyd o hyd iddynt wrth i'r fyddin Brydeinig oresgyn tiroedd eu gelynion.
 
Prif gyfraniad Jenkinson oedd i waith ymarferol ac athronyddol i ddatblygu ymarfer a theori archifol, ac fe'i ystyrir yn dad y proffesiwn o [[archifydd]] ym Mhrydain a gwledydd [[Y Gymanwlad]]. Fe osodwyd yr egwyddorion archifol hyn yn ei lyfr ''A Manual of Archive Administration'', a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1922, gyda mân adolygiadau ym 1937. Hwn oedd y testun safonol a ddefnyddid i roi seiliau i hyfforddiant archifyddion hyd yn gymharol ddiweddar.<ref>Wikipedia, erthygl ar Jenkinson. [https://en.wikipedia.org/wiki/Hilary_Jenkinson], cyrchwyd 8.10.2018</ref>