Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Caracalla"

Lleihawyd o 7 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
robot yn newid: uk:Каракалла; cosmetic changes
B (robot yn newid: uk:Каракалла; cosmetic changes)
'''Marcus Aurelius Antoninus Basianus''' ([[186]] - [[217]]), mwy adnabyddus fel '''Caracalla''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[211]] hyd ei farwolaeth. Daw'r enw ''Caracalla'' o ''"caracallus"'', math o ddilledyn, efallai clogyn, a wisgai'r ymerawdwr yn gyson.
 
Ganed Caracalla yn Lugdunum, [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw, yn fab i [[Septimius Severus]] oedd ar y pryd yn rhaglaw talaith [[Gallia Lugdunensis]]. Pan ddaeth ei dad yn ymerawdwr cafodd Caracalla y teitl "Cesar" pan oedd yn saith oed. Yn [[198]] enwyd wf yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad. Yn [[209]] enwyd ei frawd [[Geta]] yn gyd-ymerawdwr hefyd. I gryfhau ei sefyllfa, gorfododd ei dad Caracalla i briodi Plautina, Plautianus, pennaeth [[Gard y Praetoriwm]].
 
Yr oedd y berthynas rhwng Caracalla a Geta yn ddrwg, a gwaethygodd ymhellach pan enwyd y ddau yn gyd-olynwyr i'w tad pan fu ef farw ar [[4 Chwefror]] [[211]]. Llofruddiwyd Geta gan Caracalla yn [[212]]. Dywedir i tua 20,000 o bobl oedd yn gwybod mai'r ymerawdwr yn gyfrifol am y llofruddiaeth gael ei lladd. Gadwodd Caracalla ddinas [[Rhufain]] i fynd ar ymgyrchoedd milwrol, ac ni ddychwelodd tra bu byw.
 
Aeth Caracalla i [[Germania]], lle bu'n brwydro'n llwyddiannus yn erbyn rhai o'r llwythi Almaenaidd. Yn ddiweddarach bu'n ymladd yn y dwyrain. Ar ymweliad a [[Groeg]] daeth yn edmygydd mawr o [[Alecsander Mawr]] a phenderfynodd geisio ei efelychu. Yn [[215]] aeth i [[Alexandria]] i ymweld a bedd ei eilun, ond wedi cyhoeddi dychan ynglyn a llofruddiaeth Geta, dinistriwyd llawer o'r ddinas a lladdwyd miloedd o'r dinaswyr gan filwyr Caracalla. Yna aeth i ryfela yn erbyn y [[Parthia|Parthiaid]]id gyda chryn lwyddiant.
 
Er gwaethaf ei lwyddiant milwrol yr oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn casau Caracalla oherwydd ei greulondeb, a chododd cynllwyn ei ei erbyn, gyda pennaeth y Praetoriaid, [[Macrinus]], yn ei arwain. Llofruddiwyd Caracalla pan oedd ar ei ffordd i ddinas [[Carrhae]] yn [[Mesopotamia]]. Daeth Macrinus yn ymerawdwr yn ei le am gyfnod. Mae [[Baddonau Caracalla]] a adeiladwyd ganddo yn Rhufain yn parhau mewn bodolaeth.
[[tl:Caracalla]]
[[tr:Caracalla]]
[[uk:КаркаллаКаракалла]]
[[zh:卡拉卡拉]]
56,988

golygiad