Llithfaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ClecvolHAT (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen WD
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
| gwleidyddiaeth = Gwleidyddiaeth
| aelodcynulliad = {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AC}}
| aelodseneddol = {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AS}}
}}
Mae '''Llithfaen''' ({{Sain|Llithfaen.ogg|ynganiad}}) yn bentref ar arfordir gogleddol [[penrhyn Llŷn]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] ({{gbmapping|SH356431}}). Saif ger llechweddau deheuol [[Yr Eifl]] ar y ffordd B4417 o [[Llanaelhaearn|Lanaelhaearn]] i [[Nefyn]].
 
[[Delwedd:Pistyll, towards Llithfaen and Caernarfon Bay - geograph.org.uk - 55847.jpg|bawd|Golygfa o Lithfaen o'r Dwyrain]]
Tyfodd y boblogaeth pan agorwyd nifer o chwareli [[gwenithfaen]] ar yr Eifl yn y [[19g]]. Adeiladwyd llawer o dai newydd ac mae cyfrifiad [[1881]] yn dangos nifer fawr o fewnfudwyr o ardaloedd eraill yn Llŷn ei hun, o [[Penmaenmawr|Benmaenmawr]] a chyn belled â'r [[Alban]]. Yn hanner cyntaf y 19g, cyn agor chwareli llithfaen lleol fel yr un yn [[Nant Gwrtheyrn]], arferai nifer o dyddynwyr y plwyf ychwanegu at eu hincwm trwy dorri [[grug]] ar lethrau [[Tre'r Ceiri]] a'i gludo ar eu cefnau yn feichiau mawr i'w werthu fel tanwydd ym marchnad [[Pwllheli]] am 6 cheiniog y baich.<ref>D. T. Davies (gol.), ''Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn'' (Pwllheli, 1910).</ref>
[[Delwedd:Porth y Nant cottages - geograph.org.uk - 245628.jpg|bawd|chwith|Y bythynod yn y Nant.]]
 
Cynrychiolir yr ardal hon yn y [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cenedlaethol]] gan {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yw {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref>
 
Mae yno siop sydd yn gael ei redeg gan y gymuned a Thafarn Y Fic, sydd hefyd yn cael ei rhedeg gan gwmni cydweithredol.