Llyn Ladoga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:42, 11 Medi 2006

Llyn dŵr croyw mwyaf Ewrop yw Llyn Ladoga (Rwsieg Ла́дожское о́зеро / Ladozhskoe ozero), wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y Môr Baltig yng Ngweriniaeth Karelia ac Oblast Leningrad.

Map Llyn Ladoga, yn dangos St Petersburg yn y gornel dde-orllewinol

Daearyddiaeth

Mae'r llyn yn gorchuddio arwynebedd o rhwng 17.7 (heb ynysoedd) ac 18.4 (gan gynnwys ynysoedd) mil km2. Ei hyd (o'r gogledd i'r dde) yw 219km, a'i led cyfartal yw 83km. Mae ef ar ei ddyfnaf yn y gogledd-orllewin, lle ceir y man dyfnaf, 230m. Ei ddyfnder cyfartal yw 52m. Mae'n llifo i mewn i Gwlff y Ffindir ar hyd Afon Neva drwy St Petersburg. Y Neva yw'r unig afon i lifo allan ohono, ond mae'n dwyn ei ddŵr oddiwrth tua 3500 isafonydd sydd llifo i mewn iddo. Y prif isafonydd yw'r Svir, y Volkhov, y Vuoksi a'r Syas. Mae'r llyn yn cynnwys tua 660 o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys yr Ynysoedd Valaam. Y prif drefi ar ei lannau yw Shlisselburg, Novaya Ladoga, Syasstroy, Pitkyaranta, Sortavala, Lakhdenpokhya a Priozersk.

Hanes

 
Llyn Ladoga

Hyd yr 13eg ganrif, enw'r llyn oedd Llyn Nevo. Ailenwyd ar ôl y dref fasnachol o'r un enw (Staraya Ladoga) ar ei lannau. Roedd y rhan ogledd-orllewinol o'r llyn yn perthyn i'r Ffindir tan 1940.

Gweler hefyd

Llynnoedd Ewrop