Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brwydr Mechain"

Lleihawyd o 19 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
No edit summary
BNo edit summary
Yr oedd Bleddyn yn fab i [[Cynfyn ap Gwerstan]] o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd [[Gruffydd ap Llywelyn]] gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan [[Harold Godwinson]] yn [[1063]], rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd [[Rhiwallon ap Cynfyn|Rhiwallon]] wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn [[1067]] ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y [[Normaniaid]] yn [[Henffordd]], yna yn [[1068]] gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.
 
Fe geisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym [[Brwydr Mechain|mrwydr Mechain]] yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth.