Caradog ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
dyddiad posib
Llinell 5:
Gwent a [[Gwynllwg]] oedd cadarnle'r teulu, ac ymddengys fod Caradog wedi llwyddo i ychwanegu [[Morgannwg]] atynt. Mae'n ymddangos yn y cofnodion hanesyddol am y tro cyntaf yn [[1065]]. Yr oedd [[Harold Godwinson]], wedi ei fuddugoliaeth dros Gruffudd ap Llywelyn, wedi dechrau adeiladu tŷ hela ym [[Porth Sgiwed|Mhorth Sgiwed]]. Ymosododd Caradog arno a'i ddinistrio, ac yna anrheithio'r ardal.
 
Yn awr aethAeth Caradog ati fel lladd nadroedd i geisio efelychu ei dad a'i daid trwy ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas. Yn [[1072]] (neu [[1071]]) gorchfygodd frenin Deheubarth, [[Maredudd ab Owain]], mewn brwydr ger [[Afon Rhymni]] a'i ladd. Yn [[1078]] enillodd fuddugoliaeth arall dros [[Rhys ab Owain]] oedd wedi dilyn Maredudd ar orsedd Deheubarth, a'i ladd yntau. Erbyn [[1081]] yr oedd wedi gorfodi brenin newydd Deheubarth, [[Rhys ap Tewdwr]] i geisio nodded yn eglwys gadeiriol [[Tyddewi]]. Newidiwyd y sefyllfa pan laniodd [[Gruffudd ap Cynan]] o [[Iwerddon]], i geisio cipio gorsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] oddi wrth [[Trahaearn ap Caradog]]. Mewn cyfarfod rhwng Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan yn eglwys gadeiriol Tyddewi, gwnaethant gynghrair gyda bendith yr esgob.
 
Ymatebodd Caradog trwy wneud cynghrair a brenin Gwynedd, Trahaearn ap Caradog. Cyfarfu'r ddwy blaid ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]], tua taith diwrnod o Dyddewi. Lladdwyd Caradog a Trahaearn yn y frwydr yma. Gadawodd Caradog fab, Owain ap Caradog, a fodlonodd ar deyrnasu ar diroedd [[Gwynllwg]] ac a sefydlodd linach arglwyddi [[Caerllion]].