Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Lladin Llafar"

Lleihawyd o 10 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (robot yn ychwanegu: tr:Halk Latincesi)
'''Lladin Llafar''' (yn [[Lladin]], ''sermo vulgaris'', "iaith y werin") oedd y tafodieithoedd o'r iaith Ladin a siaradwydsiaredid gan werin-bobl yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Ymrannodd y tafodieithoedd yn y [[Oesoedd Canol Cynnar]] gan ddatblygu i'r [[ieithoedd Romáwns]] erbyn y [[6ed ganrif]].
 
Roedd Lladin Llafar yn wahanol i [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]] yn ei hynganiad, geirfa a [[gramadeg Lladin|gramadeg]]. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifennedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.
 
== Hanes ==
Gan nad ysgrifennwydysgrifennid iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o [[Lladin Clasurol|Ladin Clasurol]]; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaethpwydwnaed gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaradwydsiaredid Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn datgelu manylion am iaith lafar yr awdur. <ref>Charles H. Grandgent, [http://books.google.com/books?id=_OzEl6nLsGIC&pg=PA5&lpg=PR4 ''An Introduction to Vulgar Latin''] (Heath & Co., 1907)</ref>
 
Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, [[Lladin Canol]], oherwydd pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion [[Lladin Clasurol]]. DefnyddiwydDefnyddiid ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y [[Canol Oesoedd]] hyd y [[Dadeni]].
 
Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], gan ddatblygu’n raddol i mewn i [[Ffrangeg]], [[Catalaneg]], [[Eidaleg]], [[Sbaeneg]], [[Portiwgaleg]], a dwsinau o ieithoedd eraill. <ref>[http://www.ethnologue.com/show_family.asp?subid=90057 Ethologue Latin Family]</ref> Er taw Lladin oedd yr iaith swyddogol yn y ardaloedd hyn, fe siaradwydsiaredid Lladin Llafar gan y werin-bobl nes i’r ffurfiau lleol newydd ymrannu’n ddigonol o Ladin gan ddod i’r golwg fel ieithoedd ar wahân. Serch y gwahaniaeth cynyddol rhwng Lladin Llafar ac ysgrifennedig, nid oedd y tafodieithoedd yn annealladwy o’i gilydd nes yr [[8fed ganrif]].
 
Fe wyddwn fod y tafodieithoedd Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y [[9fed ganrif]]. Isod gweler llw o [[842]] a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:
2,093

golygiad