Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 59:
Wrth i’r cyflyrau wanhau yn Lladin, roedd yn rhaid i arddodiaid gael eu creu i osgoi amwysedd annerbyniol. Cafodd nifer o arddodiaid newydd eu hadeiladu gan roi hen arddodiaid at ei gilydd. Mae’r [[Ieithoedd Romáwns]] yn llawn geirynnau gramadegol a grëwyd fel hyn; Sbaeneg “donde”, “ble”, o’r Lladin "de" + "unde", neu’r Ffrangeg "dès", "ers", o’r Lladin "de" + "ex" . Daw "depués" yn Sbaeneg a "deopis" yn Bortiwgaleg o "de" + "ex" + "post". Mae rhai o’r cyfansoddion newydd hyn yn ymddangos mewn testunau llenyddol yn ystod yr Ymerodraeth Hwyr; mae Ffrangeg "dehors", Sbaeneg "de fuera" a Phortiwgaleg "de fora" ("tu fas") i gyd yn cynrychioli "de" + "foris", ac fe welwn [[Jerome]] yn ysgrifennu "''stulti, nonne qui fecit, quod '''de foris''' est, etiam id, quod de intus est fecit?''" yn y Beibl.
 
Tra gollai Lladin ei chyflyrau, dechreuodd arddodiaid lenwi’r bylchau. Er enghraifft yn Lladin Llafar, fe ddefnyddiwydddefnyddiid yr arddodiad "ad" gyda’r cyflwr gwrthrychol i wneud i fynny am y cyflwr derbynniol gwan:
 
'''Lladin Clasurol:'''