Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Gwleidydd Cymraeg oedd '''Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig''' ([[23 Medi]] [[1749]] – [[24 Gorffennaf]] [[1789]]).
 
Mab hynaf o ail briodas [[Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwing]] i Frances Shackerley o [[Sir Gaer]] oedd Syr Watkin. Roedd dal yn faban pan laddwyd ei dad wrth ddisgyn oddiaroddi ar ei geffyl tra'n hela, ac etifeddodd ystadau helaeth [[Wynnstay]]. Wrth ddod i oedran yn 1770, cynhaliodd barti afradlon gyda 15,000 o westeion. Mae siwt [[brodwaith|frodiog]], y gall ei fod wedi ei wisgo ar y pryd, yn [[Amgueddfa Cymru]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/?article_id=4|teitl=Yr Amgueddfa'n prynu siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au}}</ref>
Roedd yn [[aelod seneddol]] dros [[Swydd Amwythig (etholaeth seneddol)|Swydd Amwythig]] rhwng 1772 a 1774, a dros [[Sir Ddinbych (etholaeth seneddol)|Sir Ddinbych]] rhwng 1774 a 1789. Ef oedd [[Arglwydd Is-gapten Sir Feirionydd]] o 1775-1789. Roedd yn noddwr pwysig y celfeddydau, ac roedd [[George Frideric Handel]] y cyfansoddwr, a [[David Garrick]] y chwareuydd ymysg ei ffrindiau. Noddodd y telynor [[John Parry Ddall]] hefyd, a ddaeth yn fath o delynor teuluol yn Wynnstay.