Kos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: id:Kos
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: id:Pulau Kos; cosmetic changes
Llinell 3:
[[Ynys]] [[Gwlad Groeg|Roegaidd]] yw '''Kos''' neu '''Cos''' ([[Groeg]]: Κως; [[Twrceg]]: ''İstanköy''; [[Eidaleg]]: Coo; ''Stanchio'' gynt yn [[Saesneg]]), a leolir yn y [[Dodecanese]], yn ymyl [[Gwlff Gökova|Gwlff Cos]]. Mae'n mesur 40 wrth 8 km, ac yn gorwedd 4 km oddi ar arfordir [[Bodrum]] (yr [[Halicarnassos]] hynafol), [[Twrci]]. Poblogaeth: 30,500. Roedd yn enwog yn yr [[Groeg yr Henfyd|Henfyd]] fel man enedigol [[Hippocrates]].
 
== Hanes ==
Cafodd yr ynys ei choloneiddio gan y [[Cariaid]] yn gynnar iawn. Fe'i goresgynwyd gan y [[Doriaid]] yn y [[11eg ganrif CC]] ac ymunodd â [[Cynghrair Delios|Chynghrair Delios]]. Dwywaith yn ystod y rhyfeloedd rhwng y Groegwyr a'r [[Persia]]aid fe'i meddianwyd ond i gael ei rhyddhau yn ddiweddarach. Yn [[366 CC]] codwyd tref Kos ei hun, ac yn fuan wedyn daeth yr ynys yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] ac ar ôl hynny [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]].
 
Am gyfnod cafodd ei meddianu gan [[Fenis]] a'i gwerthu i'r [[Marchogion yr Ysbyty|Ysbytwyr]] o [[Rhodes]]. Yna am 440 mlynedd bu'n rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]]. Cafodd ei throsglwyddo i'r [[Eidal]] yn [[1912]]. Ar ôl cyfnod byr ym meddiant yr [[Almaen]]wyr yn yr [[Ail Ryfel Byd]], a'r [[Deyrnas Unedig]] ar ôl hynny, fe'i ildiwyd i Wlad Groeg yn [[1947]].
 
== Hippocrates ==
Credir i [[Hippocrates]], "Tad [[Meddygaeth]]", gael ei eni yn Kos. Yng nghanol y dref ceir coeden hynafol a elwir [[Planwydden]] Hippocrates; dywedir ei bod yn dynodi safle hen deml. Mae Kos yn gartref i'r Sefydliad Hippocratig Rhyngwladol a'r Amgueddfa Hippoctratig a gysegir i'r ffisegydd enwog. Ger y Sefydliad mae adfeilion [[Asklepeion]], lle hyfforddwyd Hippocrates gan Herodicus, yn ôl traddodiad.
 
Llinell 32:
[[he:קוס]]
[[hr:Kos (otok)]]
[[id:Pulau Kos]]
[[it:Coo]]
[[ja:コス島]]