Maya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Seilid y diwylliant ar amethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae [[pyramid]]au a phalasau. Ystyrir eu cerfulniau o'r cyfnod clasurol (tua [[200]]-[[1200]]) ymhlith celfyddyd orau y cyfandir. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwuddor debyg i ysgrifen hieroglyffig [[yr Hen Aifft]].
 
Dechreuodd diwylliant y Maya ddirywio o'r [[8fed ganrif]] ymlaen, gyda nifer o ddinasoedd yn mynd yn anghyfannedd. Ceir rhywfaint o dystiolaeth archaeolegol am ryfeloedd yn y cyfnod yma. Parhaodd y diwylliant ar benrhyn [[Yucatán (penrhyn)|benrhyn Yucatán]] ac ucheldiroedd Guatemala. Ymhlith dinasoedd enwog Yucatán roedd [[Chichén Itzá]], [[Uxmal]], [[Edzná]] a [[Cobá]]. Yn ddiweddarach, daeth dinas [[Mayapan]] i reoli'r Yucatán, hyd nes bu gwrthryfel yn ei herbyn yn [[1450]].