Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
afon y meirchion
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu yn [[Afon Clwyd]] yw '''Afon Elwy'''. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yn bennaf.
 
Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn ymyl Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno â hi, ac wedyn [[Afon y Meirchion, sydd yn tarddu ar [[Moel Tywysog|Foel Tywysog]] ac yn llifo trwy [[Henllan|Henllan(Dinbych)]],
 
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.