Mathemategydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad
delwedd a manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Euklid.jpg|bawd|[[Euclid]] gyda'i galiper; ystyrir Euclid (fl. 300 CC) yn dad [[geometreg]]; paentiad o tua 1474.]]
Arbenigwr ym maes Mathemateg yw '''mathemategydd''', ac sy'n astudio rhif, data, modelau, strwythur, gofod, newid (Calcwlws) a nifer o israniadau eraill. Yn aml mae'n datrus problemau mathemategol naill ai mewn [[mathemateg bur]] neu mathemateg gymhwysol, ar gyfer sefyllfaoedd real y byd mawr.<ref>{{Citation|last=Boyer|year=1991|title=A History of Mathematics|page= 43}}</ref><ref>{{Harv|Boyer|1991|loc="Ionia and the Pythagoreans" p. 49}}</ref>
 
Un o'r mathemategwyr cyntaf y ceir conod ohono yw [[Thales|Thales o Filetus]] (c. 624–c.546 CC) a'r ferch gyntaf oedd [[Hypatia o Alexandria]] (AD 350 - 415) a ysgrifennodd nifer o lyfrau ar fathemateg gymhwysol. Blodeuodd tad [[geometreg]], sef [[Euclid o Alexandria]] yn 300 CC. Magwyd sawl cyfieithydd Islamaidd a drodd at fathemateg, gan gynnwys Ibn al-Haytham; un nodwedd ohonynt oedd eu bod yn aml-ddisgyblaethol, yn bolymath. Yn yr [[Oesoedd Canol]] roedd mathemategwyr Ewropeaidd yn dilyn gyrfâu eraill, gan droi at fathemateg fel diddordeb: [[peiriannydd]] oedd [[Niccolò Fontana Tartaglia]], [[cyfreithiwr]] oedd François Viète a [[meddyg]] oedd y Cymro [[Robert Recorde]].<ref>[http://www.fordham.edu/halsall/source/hypatia.html Ecclesiastical History, Bk VI: Chap. 15]</ref><ref>Abattouy, M., Renn, J. & Weinig, P., 2001. Transmission as Transformation: The Translation Movements in the Medieval East and West in a Comparative Perspective. Science in Context, 14(1-2), 1-12.</ref>
 
Erbyn y [[17g]], daeth y prifysgolion yn feithrinfeydd i syniadau newydd gyda [[Robert Hooke]] a [[Robert Boyle]] ym [[MhrifysgolPrifysgol Rhydychen|PrifysgolMhrifysgol Rhydychen]] ac [[Isaac Newton]] yng [[Caergrawnt|Nghaergrawnt]].<ref>Röhrs, "The Classical Idea of the University," ''Tradition and Reform of the University under an International Perspective'' tud.20</ref>
 
==Mathemategwyr o Gymru==