Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Castell y Bere"

No change in size ,  2 flynedd yn ôl
Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g using AWB)
(Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB)
{{Gwybodlen lle
[[Delwedd:CastellybereFMA01.jpg|bawd|320px|Awyrlun o Gastell y Bere.]]
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
[[Cestyll y Tywysogion Cymreig|Castell Cymreig]] yn ne [[Gwynedd]] yw '''Castell y Bere'''. Roedd yn un o gestyll pwysicaf [[Teyrnas Gwynedd|tywysogion Gwynedd]] yn y [[13g]]. Fe'i codwyd gan [[Llywelyn Fawr]] ac mae lle i gredu fod y bardd [[Gruffudd ab yr Ynad Coch]] wedi cyfansoddi ei farwnad enwog i [[Llywelyn ap Gruffudd|Lywelyn ap Gruffudd]] yn y Bere yn Rhagfyr [[1282]] neu ddechrau [[1283]].
[[Delwedd:Castell y bere.jpg|bawd|chwith|dde|320px|Llun o gyfeiriad Tywyn a Llanegryn.]]
 
==Lleoliad==
Lleolir y castell ym [[plwyf|mhlwyf]] hanesyddol [[Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)|Llanfihangel-y-pennant]], yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Ystumanner]], [[cantref]] [[Meirionnydd (cantref)|Meirionnydd]], ym mhen uchaf [[Dyffryn Dysynni]]. Mae'n sefyll ar grug neu fryncyn isel ar lan ddeheuol Afon Cader, ffrwd sy'n [[aber]]u yn [[Afon Dysynni]] hanner milltir i'r gorllewin o'r castell. Mae hen lwybr dros fwlch Nant-yr-Eira ac un arall ar lan Afon Dysynni yn ei gysylltu ag [[Abergynolwyn]] i'r dwyrain. Yn y gogledd mae bryniau mawr cadwyn [[Cadair Idris]] yn ei amddiffyn. Yr unig fynediad rhwydd iddo yw i fyny Dyffryn Dysynni o gyfeiriad [[Llanegryn]] a [[Tywyn|Thywyn]] ar yr arfordir. Roedd gwylfa ar ben [[Craig yr Aderyn]] i'w gwarchod o'r cyfeiriad hwnnw.
[[Delwedd:Y Bere.JPG|250px|bawd|chwith|chwith|'''Castell y Bere''' gyda bryniau Cadair Idris yn y cefndir]]
 
==Hanes==
 
==Adeiladwaith==
[[Delwedd:Castell y Bere 2.jpg|300px|bawd|chwith|Prif gwrt y castell a'r ffynnon yn y canol]]
Castell y Bere yw'r mwyaf ei faint a'r mwyaf cymhleth ac uchelgeisiol o gestyll tywysogion Gwynedd. Daearyddiaeth ei safle a benderfynnodd ei gynllun, sy'n afreolaidd iawn ac yn dilyn ffurf y graig. Roedd yn gastell mawr yn ôl safonnau cestyll Gwynedd. Cafodd ei addurno â cherfluniau - dau farchog carreg yn gwarchod y fynedfa, er enghraifft - teiliau paentiedig a ffenestri [[gwydr lliw]], sy'n awgrymu ei fod yn [[llys]] a chanolfan weinyddol yn ogystal ag amddiffynfa. Yn wir, fel amddiffynfa doedd gan y castell ddim llawer i'w amddiffyn yn uniongyrchol.
 
57,667

golygiad