Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion), replaced: ennillodd → enillodd, yn rif → yn rhif (2) using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 30:
Yn 2004, pan oedd Katherine yn 23 oed, arwyddodd y cytundeb recordiau fwyaf yn hanes cerddoriaeth clasurol. Daeth y cyn-athrawes o Gastell Nedd y gantores glasurol a werthodd y nifer fwyaf o recordiau gyflymaf ers [[Maria Callas]].
 
Ers hynny, gwnaed Katherine yn fascot swyddogol [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|tîm rygbi Cymru]]. Cyn Cwpan Rygbi'r Byd yn 2003, recordiodd gân swyddogol y tîm Cymreig, fersiwn o ''Bread of Heaven'' i gyfeiliant côr meibion o gant o leisiau. Cyn hynny, roedd wedi canu'r anthem genedlaethol ''[[Hen Wlad Fyfy Nhadau]]'' yn [[Stadiwm y Mileniwm]] cyn gêm Cymru / Lloegr ym mis Awst.
 
Mae Katherine wedi perfformio ar yr [[The X Factor|X Factor]] yn canu gyda Rhydian. Roedd hi wedi rhyddhau 5 albwm erbyn 2004; roedd yr albwm ''Premier'' ar ben y siart clasurol am 8 wythnos. Yn 2005 cafodd ''La Diva'' ei ryddhau ac yn 2006 rhyddhodd yr albwm ''Serenade''. Yn 2008 cafwyd ''From the heart'' a ''Rejoice''. Rhyddhaodd ei chweched albwm sef ''Sacred Arias'' ar yr 20fed o Hydref 2008.
Llinell 42:
Arhosodd ei halbwm cyntaf, ''Première'', am gyfanswm o wyth wythnos ar frig y siart glasurol Prydeinig, gan ei gwneud y soprano i werthu gyflymaf erioed. Yn fuan iawn, Jenkins oedd yr artist glasurol gyntaf i gael dwy alwbm rhif un yn yr un flwyddyn gyda Première a Second Nature. Mae hi bellach yr unig berson i fod yn rhif un y siart glasurol a chael dau albwm yn y siart ar yr un pryd. Cyrhaeddodd Second Nature rif 16 yn y siart bop y Deyrnas Unedig ac yn ddiweddarach cafodd ei enwi fel Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Claurol y BRITs. Dewisir y wobr hon gan wrandawyr [[Classic FM]].
 
Jenkins oedd y person cyntaf hefyd i berfformio anthem y Gwledydd Cartref "The Power of Four". Yna aeth ymlaen i berfformio'n rheolaidd fel y gantores a ganai'r anthem genedlaethol [[Hen Wlad Fyfy Nhadau]] yng ngemau rhyngwladol Cymru. Hefyd canodd gyda [[Bryn Terfel]] yng ngêm Cymru-Lloegr y Chwech Gwlad yn [[Stadiwm y Mileniwm]]. Bellach, Jenkins yw mascot swyddogol [[tîm rygbi Cymru]]. Yn ogystal â'i pherfformiadau cyn gemau Rygbi'r Undeb. Yn 2004 canodd yn rownd derfynol Cwpan Sialens Powergen rhwng [[San Helens]] a [[Wigan]].
 
=== 2005 - 2006: Living a Dream a Serenade ===
Llinell 66:
Yn Nhachwedd 2007, canodd unwaith eto ar gyfer Gŵyl Goffa'r Lleng Brenhinol Prydeinig yn Neuadd Albert, Llundain ac enillodd y wobr am y berfformwraig glasurol y flwyddyn yng Ngwobrau Adloniant y ''Variety Club''. Rhyddhawyd ei phumed albwm, o'r enw ''Rejoice'', ar 19 Tachwedd 2007. Mae'r albwm yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth [[pop]] a chlasurol ac ysgrifennwyd rhai o'r caneuon yn arbennig ar ei chyfer. Ysgrifennwyd dwy gân gan [[Gary Barlow]] o'r grŵp [[Take That]]. Aeth yr albwm i rif tri o'r siart albymau pop, gan faeddu'r [[Spice Girls]] a [[Girls Aloud]]. Dywedodd Jenkins "I never imagined when I was a young girl listening to them on the radio that I would outsell the Spice Girls and Celine Dion. It’s almost too much to take in. I can’t thank my fans enough for all their support."
 
Cydweithiodd Jenkins gyda [[Darcey Bussell]] hefyd, gan drefnu cynhyrchiad llwyfan o ddawns a cherddoriaeth er mwyn talu teyrnged i'r sêr a'u hysbrydolodd, gan gynnwys [[Madonna]] a [[Judy Garland]]. Gyda chyllid o £1 miliwn, lansiwyd y sioe o'r enw "Viva la Diva" ym [[Manceinion]] ym mis [[Tachwedd]]. Er mwyn paratoi ar gyfer y sioe, dysgodd Jenkins i ddawnsio tap, gan dreulio wyth awr yr wythnos mewn stiwdio ddawns yn dysgu'r coreograffeg ac yn rhedeg tair milltir bob dydd er mwyn bod yn heini. Perfformiodd Jenkins a Bussell ran o'r sioe o flaen Brenhines Lloegr yn y 79fed ''Royal Variety Performance'' a ddarlledwyd ar y teledu ar 9 Rhagfyr 2007. Ar y 15 Rhagfyr, perfformiodd Jenkins ar raglen derfynol y gyfres [[The X Factor]]. Canodd ddeuawd gyda'r cystadleuydd [[Rhydian Roberts]] gan ganu "You Raise Me Up". Perfformiodd "[[Hen Wlad Fyfy Nhadau]]" hefyd ar yr 17 Mai 2008 yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth Cwpan yr FA rhwng [[Dinas Caerdydd]] a [[Portsmouth]]. Hi oedd y person cyntaf i wneud hyn yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA.
 
Rhyddhawyd hunangofiant Jenkins, ''Time to Say Hello'', ar 28 Ionawr 2008, a gafodd ei gyhoeddi fel cyfres yn ''The Mail on Sunday''. Mae Jenkins hefyd yn llysgennad ar gyfer peniau a rhoddion Montblanc. Am ei bod yn llysgennad i'r cwmni, golyga hyn ei bod yn medru benthyg eu gemwaith er mwyn eu gwisgo i ddigwyddiadau, ond er mwyn diogelu Jenkins a'r gwrthrychau gwerthfawr, caiff Jenkins ei thywys gan swyddogion diogelwch Montblanc. Gwisgodd gwerth £6 miliwn o ddeiamwntiau Montblanc ar gyfer Gwobrau Blynyddol y [[Grammy]] yn 2008.