Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 76:
Tra'n astudio yn yr Academi Frenhinol o Gerddoriaeth pan oedd yn 19 mlwydd oed, ymosodwyd arni a bu bron iddi gael ei threisio gan ddyn a ddilynodd hi oddi ar y bws wedi noson allan gyda ffrindiau. Wrth i Jenkins gerdded y daith dwy-funud i'w chartref yn Llundain, neidiodd y dyn arni gan geisio'i llusgo i lwybr ond llwyddodd i ddianc. Parhaodd y dyn i'w dilyn gan ei tharo i'r llawr, gan beri i Jenkins gwrlio i fyny fel pêl er mwyn ei atal rhag ei threisio. Ar ôl iddo ei chicio droeon, gadawodd y dyn gyda'i waled.<ref>Erthygl ''[[www.thisissouthwales.co.uk]]'' - "Singer Katherine Jenkins opens up about her attack ordeal" Hydref 14eg. 2008.</ref> Ni chafodd ei ddal. Dywedodd Jenkins am y profiad ""I was terrified for some time afterwards. I couldn't go out in the dark and always had to be with somebody. Even though I was on a student budget, I scraped together enough to buy a car so I could drive everywhere."
Wedi i Jenkins a Dame [[Vera Lynn]] gael eu gweld ar lwyfan gyda'i gilydd yn canu "We'll Meet Again" i dathlu 60 mlynedd ers Diwrnod VE, rhoddwyd y ffugenw "the new Forces' Sweetheart" i Jenkins, sef y ffugenw a roddwyd i Lynn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dywedodd Lynn wrth Jenkins y dylai fynd allan i ddiddanu'r lluoedd arfog a chytunodd Jenkins i wneud hynny. Yn Rhagfyr 2005 a 2006, teithiodd Jenkins i [[Irac]] i ganu i'r milwyr adeg y Nadolig. Yn ystod ei thaith gyntaf i Irac yn 2005, targedwyd yr hofrennydd roedd yn hedfan ynddo gan daflegrau wrth iddynt deithio i Shaibah, y prif faes Prydeinig yn Ne Irac. Taniwyd ffaglau gwrth-daflegrau a glaniodd y criw'n ddiogel.
Bu Jenkins mewn perthynas am bedair mlynedd gyda'r cerddor a chyn-aelod o'r band ''Worlds Apart'', Steve Hart. Fodd bynnag, cadwodd y ddau y manylion am eu perthynas yn gyfrinachol a phur anaml y gwelwyd y ddau gyda'i gilydd. Cadarnhaodd Jenkins yn Nhachwedd 2006 fod y ddau ohonynt wedi gwahanu er mwyn iddi allu canolbwyntio ar ei gyrfa.
Ar ôl hyn
Priododd Jenkins y cyfarwyddwr ffilm Americanaidd [[Andrew Levitas]] ar 27 Medi 2014, ym Mhalas Hampton Court, Llundain. Ganwyd merch iddynt yn 2016 a mab yn 2018.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/518265-bach-newydd-gantores-katherine-jenkins|teitl=Mab bach newydd i’r gantores, Katherine Jenkins|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad= 24 Ebrill 2018}}</ref>
|