Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 80:
Bu Jenkins mewn perthynas am bedair mlynedd gyda'r cerddor a chyn-aelod o'r band ''Worlds Apart'', Steve Hart. Fodd bynnag, cadwodd y ddau y manylion am eu perthynas yn gyfrinachol a phur anaml y gwelwyd y ddau gyda'i gilydd. Cadarnhaodd Jenkins yn Nhachwedd 2006 fod y ddau ohonynt wedi gwahanu er mwyn iddi allu canolbwyntio ar ei gyrfa.
 
Ar ôl hyn, bu'n canlyn y cyflwynydd teledu o Gymru, [[Gethin Jones (cyflwynydd teledu)|Gethin Jones]]. Dywedodd yn Chwefror 2011 "Yes, it's pretty serious, but honestly I don't want to go into it very much. I like to keep my private life private and I don't want people to think that I'm trying to exploit the relationship. We are together because we like each other and not because we want any publicity from it." Ar 6 Chwefror 2011, cyhoeddwyd ei bod wedi dyweddïo gyda'r cyflwynydd teledu.<ref>[http://www.digitalspy.co.uk/showbiz/news/a302276/katherine-jenkins-gethin-jones-engaged.html Katherine Jenkins, Gethin Jones engaged] Gwefan Digitial Spy. 06-02-2011.</ref> Fodd bynnag, yn Rhagfyr 2011, cyhoeddodd Jenkins ar [[Twitter]] fod y berthynas wedi dod i ben.
 
Priododd Jenkins y cyfarwyddwr ffilm Americanaidd [[Andrew Levitas]] ar 27 Medi 2014, ym Mhalas Hampton Court, Llundain. Ganwyd merch iddynt yn 2016 a mab yn 2018.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/518265-bach-newydd-gantores-katherine-jenkins|teitl=Mab bach newydd i’r gantores, Katherine Jenkins|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad= 24 Ebrill 2018}}</ref>