Brwydr Moel-y-don: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
teipio
Llinell 2:
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
 
[[Delwedd:Personal arms of Llywelyn ap Gruffudd.svg|bawd|chwith|150px|Arfbais rhyfel Llywelyn ll]]
Ymladdwyd '''Brwydr Moel-y-don''' ar [[6 Tachwedd]] [[1282]] ar [[Afon Menai]] rhwng milwyr [[Edward I o Loegr]] a milwyr [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], er mwyn amddiffyn [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]] rhwng [[Llan-faes]], [[Môn]] a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger [[Moel-y-don]] ei hun.
 
Yn ystod yr haf, 1282, goresgynwyd Môn gan rhanran o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o [[Rhuddlan|Ruddlan]]. Bwriad Edward oedd dwyn cynhaeaf yr ynys ac felly tynhau'r rhaff o gwmpas Gwynedd yn ei ymdrech i orchfygu'r Cymry. Aeth y Saeson ati i godi pont o bren dros Afon Menai yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Mae lleoliad y bont honno yn ansicr ac mae'n debyg mai pontŵn (sef [[pont]] o gychod wedi'u rhaffu wrth ei gilydd) oedd hi. Ni cheir cyfeiriadau at y frwydr fel 'Brwydr Moel-y-don' tan yr 16g. Mae Moel-y-don yn safle hen fferi a leolir nid nepell o [[Llanidan|Lanidan]]. Ond roedd pencadlys y Saeson yn ardal Llan-faes, tua 7 milltir i'r dwyrain, ac roedd y gwaith yn golygu symud deunydd trwm a gweithwyr. Buasai'r Saeson yn wynebu anawsterau mawr i ymladd eu ffordd trwy goedwigoedd tewfrig ar ôl glanio hefyd. Cynigir gan haneswyr diweddar fel [[J. Beverley Smith]] mai rhwng Llan-faes ac ardal Bangor y codwyd y bont mewn gwirionedd gyda'r bwriad o ymosod ar lys Llywelyn yn [[Abergwyngregyn]], dros [[Traeth Lafan|Draeth Lafan]].
 
Ar Ddyddgwyl Sant Lennard (6 Tachwedd), gwelwyd mintai greffgref o farchogion a milwyr traed Seisnig ar y bont. Cofnodir yr hyn a ddilynodd gan sawl croniclydd Seisnig. Ymddengys fod y Saeson ar Fôn wedi penderfynu ymosod heb orchymyn gan eu brenin a dywedir hefyd nad oedd y bont yn gwbl barod. Roedd yno saith marchog a thri chant o filwyr traed. Ar ôl iddynt lanio (yn fwy na thebyg ar Draeth Lafan) daeth y llanw i mewn yn gyflym gan adael dŵr rhyngddynt a'r bont. Yn sydyn, ymosododd y Cymry "allan o'r mynyddoedd uchel". Cymaint oedd braw a dychryn y Saeson fel y ffoesant yn ôl am y bont. Boddwyd pob un ohonynt, yn llwythog o arfwisgoedd trwm, yn ceisio dianc o afael gwŷr Llywelyn.
 
Bu sôn am y golled drychinebus (o safbwynt Lloegr) gan y Saeson am flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Roedd yn achos dathlu i'r Cymry, fodd bynnag, a cheir cyfeiriadau at y gyflafan yn y [[canu darogan]].