Buddug (Boudica): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Brenhines arwrol (''Boudica'' neu ''Boudicca'', hefyd ''Boadicea'') [[Llwythi Celtaidd Prydain|llwyth Belgaidd]] [[yr Iceni]], a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn ne-ddwyrain [[Lloegr]].
 
Roedd [[Britannia]], y rhan o [[Prydain|Brydain]] a oedd dan reolaeth [[Rhufain]], yn cael ei llywodraethu gan y [[procurator]] Rhufeinig llygredig [[Catus]] yn enw y llywodraethwr [[Suetonius Paulinus]], a oedd yng ngogledd [[Cymru]] yn brwydro yn erbyn y [[derwyddon]] ym [[Môn]]. Pan fu farw [[Prasutagas]], gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd.
 
Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni yr IXfed [[Lleng Rufeinig|Leng Rufeinig]]. Aethant yn eu blaen i gipio [[Verulamium]] ([[St Albans]]), y brifddinas Rufeinig ar y pryd [[Camelodunum]] ([[Colchester]]), ynghyd â porthladd [[Londinium]] ([[Llundain]].