Wythnos Yng Nghymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 35:
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un gaiff ei wireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu [[cenedlaetholdeb Cymreig]]) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
 
Yn 2017 cyfansoddodd [[Gareth Glyn]] [[opera]] yn seiliedig ar y nofel gyda'r [[libreto]] gan Mererid Hopwood. Adolygwyd hi ar [[BBC Radio Cymru]]<ref>https://www.bbc.co.uk/programmes/b09cm1bv</ref>
 
== Beirniadaeth ==
Mae'r nofel yn arwyddocaol yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]] gan mai hi oedd y ffuglen wyddonol gyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith.{{angen ffynhonnell}} Fodd bynnag, cydnabyddir yn gyffredinol (a chan yr awdur ei hun) mai [[propaganda]] gwleidyddol yw'r nofel yn y bôn a bod hynny yn tanseilio rhywfaint ar ei gwerth llenyddol. Cafwyd adolygiad ohono mewn sawl maes gan gynnwys gan [[Lowri Haf Cook]]<ref>https://lowrihafcooke.wordpress.com/2017/11/27/adolygiad-theatr-wythnos-yng-nghymru-fydd-opra-cymru/</ref>
 
Ail-argraffwyd y llyfr yn 2007 ar bumdeg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol.<ref>https://www.gomer.co.uk/catalog/product/view/id/29688/s/wythnos-yng-nghymru-fydd/category/148/</ref>
 
==Dylanwad Tramor ar Wythnos yng Nghymru Fydd==
Ysbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr ''[[Altneuland]]'' gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda [[Seioniaeth]] ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym [[Palesteina|Mhalesteina]]. Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas [[Tel Aviv]] ar ôl teitl cyfieithiad [[Hebraeg]] o'r llyfr.
 
==Cyfeiriadau==
 
{{Rheoli awdurdod}}