Gwleidydd yw '''Ron Davies''' (ganwyd [[6 Awst]], [[1946]]). Fe'iCaiff adnabyddirei adnabod yn bennaf fel 'pensaer datganoli' gan mai ef, fel [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] ar y pryd yn Llywodraeth [[Y Blaid Lafur|Lafur]] newydd [[Tony Blair]], a lywiodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Dŷ'r Cyffredin]] ar ôl i bobl Cymru bleidleisio o blaid datganoli mewn [[refferendwm]] ym [[1997]]. Ef hefyd ddywedodd mai "proses yw datganoli, nid digwyddiad": roedd o'r farn ym 1997 wrth i Gymru bleidleisio dros Gynulliad y byddai angen cyfres o ddeddfau er mwyn trosglwyddo grymoedd i Gymru dros gyfnod o amser, ac na fyddai'r Cynulliad fel yr oedd ar y pryd yn ddigonol yn yr hirdymor.