Hedd Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i [[awdl]] "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth ennill cadeiriau yn [[Llanuwchllyn]] yn 1913, [[Pwllheli]] yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a [[Pontardawe|Phontardawe]] yn 1915<ref name="Pamffled Hedd Wyn"/>. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac [[englyn]]ion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd [[Ffestiniog]] ar 20 Awst, 1910.
 
Mae'r darn cyntaf o'i gerdd Rhyfel yn cael ei ddyfynnu yn aml:
 
<pre>
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
</pre>
 
Aeth yn [[milwr|filwr]] yn 15fed Bataliwn [[y Ffiwsilwyr Cymreig]] yn Ionawr [[1917]]. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger [[Lerpwl]] ac aeth i [[Fflandrys]] erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu [[brwydr Passchendaele]]. Fe'i lladdwyd ym [[Brwydr Cefn Pilkem|Mrwydr Cefn Pilkem]] a oedd yn rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres ([[Fflemeg]]: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.