Ailgylchu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Hyd ail hanner yr [[20fed ganrif]], roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael roi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu ailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn Gorsafoedd Trosglwyddo gwastraff a caiff eu rhedeg gan y Cyngor, neu eu casglu gan y cyngor o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u anfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.
 
Mae rhai pobl yn dadlau fod ailgylchu sbwriel yn defnyddio mwy o ynni na gwneud nwyddau newydd, er bod y symbol rhyngwladol ailgylchu (gwelwch llun uwch) yn rhoi'r argraff bod modd i ailgylchu deunyddiau yn ddiorffen.
 
==Cyfeiriadau==