Afan Buallt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Sant]] o'r [[6ed ganrif]] oedd '''Afan''' neu '''Afan Buallt''' neu'r '''Esgob Afan''' (fl. [[500]] - [[542]]). Fe'i cysylltir â thri [[plwyf]] yn arbennig, sef [[Llanafan]] ([[Ceredigion]]), [[Llanafan Fawr]] a Llanafan Fechan ([[Powys]]). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Geredigion.
 
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd Afan yn fab i [[Cedig ap Ceredig|Gedig ap Ceredig]], brenin [[teyrnas Ceredigion]], a [[Tegwedd]] ferch [[Tegid Foel]] ac yn gefnder i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]]. Roedd yn frawd i [[Doged|Ddoged]] ac yn un o ddisgynyddion [[Cunedda Wledig]], sefydlydd [[teyrnas Gwynedd]]. Roedd yn berthynas i Sant [[Teilo]] hefyd, trwy ei fam.
 
Credir iddo fod yn drydydd abad neu 'esgob' [[Llanbadarn Fawr]]. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Afan yn Llanafan Fawr yn y flwyddyn 542 gan griw o Wyddelod ar gyrch ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]]. Elwir y ffrwd lle y'i lladdwyd yn Nant Esgob. Ceir Derwen Afan yn y plwyf hefyd.