Ailgylchu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
gwneud yn fwy glir mai *enghraifft* ydy Merthyr
Llinell 4:
 
Mae deunydd a all ei ailgylchu yn cynnwys [[gwydr]], [[papur]], [[metel]], [[plastig]], [[tecstiliau]], a deunydd [[electronig]]. Er fod [[compostio]] ac ailddefnyddio [[gwastraff bioddiraddadwy]] megis [[gwastraff bwyd]] neu [[gwastraff gwyrdd|gwastraff o'r ardd]] yn cael effaith tebyg, ni gysidrir fel rheol i fod yn ailgylchu.<ref name="gar" />
 
Yng Nghymru, rhedir cynlluniau ailgylchu gan Lywodraeth Leol, gan rantiau o Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful rant o £100,000 yn 2009 [http://new.wales.gov.uk/news/topic/sustainable/2009/090313recycling/?skip=1&lang=cy]
 
Hyd ail hanner yr [[20fed ganrif]], roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael roi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu ailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a caiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, neu eu casglu o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u anfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.