Ailgylchu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
gwneud yn fwy glir mai *enghraifft* ydy Merthyr
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 4:
 
Mae deunydd a all ei ailgylchu yn cynnwys [[gwydr]], [[papur]], [[metel]], [[plastig]], [[tecstiliau]], a deunydd [[electronig]]. Er fod [[compostio]] ac ailddefnyddio [[gwastraff bioddiraddadwy]] megis [[gwastraff bwyd]] neu [[gwastraff gwyrdd|gwastraff o'r ardd]] yn cael effaith tebyg, ni gysidrir fel rheol i fod yn ailgylchu.<ref name="gar" />
 
Yng Nghymru, rhedir cynlluniau ailgylchu gan Lywodraeth Leol, gan rantiau o Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful rant o £100,000 yn 2009 [http://new.wales.gov.uk/news/topic/sustainable/2009/090313recycling/?skip=1&lang=cy]
 
Hyd ail hanner yr [[20fed ganrif]], roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael roi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu ailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a caiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, neu eu casglu o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u anfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.
 
Tra bod ailgylchu yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei gladdu mewn tomeni tirleni ac yn arbed defnyddio deunydd crai ychwnegol i greu cynnyrch o'r newydd, mae'r broses o ailgylchu ei hun yn gallu denfyddio llawer o ynni. Mewn rhai achosion felly, fe elli'r dadlau bod ailgylchu sbwriel yn defnyddio mwy o ynni na chreu nwyddau o'r newydd.
 
== Hanes ==
=== Ailgylchu cynnar ===
Mae ailgylchu wedi bod yn weithgaredd cyffredin am ran helaeth o hanes dynoliaeth, gyda chofnodion yn cyfeirio ato cyn belled yn ôl a [[Plato]] yn [[400 CC]]. Yn ysod cyfnodau pan oedd deunyddiau'n brin, mae astudiaethau archeolegol o domenni gwastraff hynafol yn dangos llawer llai o wastraff na ddisgwylid (megis lludw, offer wedi torri a chrochenwaith), gan gynnig y bu llawer iawn yn cael ei ailgylchu gan nad oedd deunyddiau crai newydd yn gyffredin.<ref name="guide">{{dyf llyfr | cyhoeddwr=Black Dog Publishing| blwyddyn=2006| lleoliad=Llundain| isbn=1904772366| teitl=Recycle : a source book}}</ref>
 
Yn y cyfnod [[cyn-ddiwydianol]], mae tystiolaeth yn Ewrop i [[efydd]] a metelau eraill [[sgrap]] gael eu casglu a'u toddi ar gyfer eu aildefnyddio yn ddi-ddiwedd.<ref name="economisttruth">{{dyf gwe| teitl=The truth about recycling| dyddiad=7 Mehefin 2007| url=http://www.economist.com/opinion/displaystory.cfm?story_id=9249262| cyhoeddwr=The Economist}}</ref> Ym Mhrydain, casglwyd llwch a lludo o danau pren a glo gan ddynion lludw a cafodd ei "lawrgylchu" fel deunydd ai ddefnyddwyd i greu briciau. Y prif ysgogiad ar gyfer y math hyn o ailgylchu oedd y fantais economaidd o gael gafael ar ddeunydd wedi ei ailgylchu yn hytrach na thalu am ddeunydd crai newydd, yn ogystal a'r ffaith na fu casgliadau gwastraff ledled yr ardaloedd poblogedig.<ref name="guide"/> Ym 1813, datblygodd [[Benjamin Law]] broses o droi carpiau yn "frethyn eilban" a "gwlan mungo", yn [[Batley]], [[Swydd Efrog]]. Roedd y defnydd hwn yn cyfuno ffibrau wedi eu ailgylchu gyda [[gwlan]] newydd. Parhaodd diwydiadnt brethyn eilban [[Gorllewin Efrog]] mewn trefi megis Batley a [[Dewsbury]], o'r [[19fed ganrif]] gyntaf hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]].
 
==Ailgylchu yng Nghymru==
Yng Nghymru, rhedir cynlluniau ailgylchu gan Lywodraeth Leol, gyda'r drefn yn wahanol ym mhob sir. Cefnogir hyn gan rantiau oachlysurol gan Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful rant o £100,000 yn 2009 [er mwyn annod trigolion y sir i ailgylchu, a galluogi'r cyngor i gasglu deunydd o nifer fwy o gartrefi.<ref>{{dyf gwe| url=http://new.wales.gov.uk/news/topic/sustainable/2009/090313recycling/?skip=1&lang=cy]| teitl=Grant £100,000 yn rhoi hwb i ailgylchu ym Merthyr Tudful| cyhoeddwr=Llywodraeth Cynulliad Cymru| dyddiad=13 Mawrth 2009}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==