Ieithoedd Brythonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B wedi symud Brythoneg i Ieithoedd Brythonaidd: Cyd-fynd ag erthyglau eraill, ac mae "Brythoneg" yn gweithio â geiriau fel 'Brythonig-Rufeinig' ("Romano-British") yn unig. Nid yw "Brythoneg" (i olygu "British") yn ddigon da am ddisgrifiad - British
iaith
Llinell 1:
[[Image:Britonia6hcentury.png|thumb|right|200px|Trefedigaethau Brythoneg yn y chweched ganrif.]]
 
Iaith yn perthyn i deulu'r [[Celteg|Gelteg]] Ynysig yw'r '''Frythoneg'''. Mae disgynyddion teulu'r Frythoneg yn cynnwys y [[Cymraeg|Gymraeg]], [[Cernyweg]] a [[Llydaweg]].
Mae'r '''ieithoedd Brythonaidd''' (neu ''ieithoedd Prydeinig'') yn ffurfio un o'r ddwy gangen y teulu ieithyddol [[Ieithoedd Celtaidd Ynysol|Celtaidd Ynysol]], y llall yn [[Goideleg]].<ref>[http://books.google.com/books?id=-k8QAAAAYAAJ History of English: A Sketch of the Origin and Development of the English Language]</ref> Mae'r enw ''Brythoneg'' yn cyfeirio at [[Brythoniaid (hanesyddol)|Frython]]iaid brodorol mewn cyferbyniad ag [[Eingl-Saeson]] neu [[Gaels]].
 
Mae'r ieithoedd Brythonaidd yn tarddu o'r [[Iaith Brydeinig (Celtaidd)|iaith Brydeinig]], a siaradwyd drwodd Prydain, de o [[Moryd Forth|Foryd Forth]] yn ystod yr [[Oes Haearn Brydeinig|Oes Haearn]] ac [[Prydain Rhufeinig|oes Rufeinig]]. Gogledd o Foryd Forth, ystyrir yr [[Iaith Bictaidd|iaith Bictaidd]] i fod yn berthnasol; mae'n bosibl yr oedd yn iaith Frythonaidd, ond efallai iaith chwaer yr oedd. Yn y 4ydd a 5ed ganrif, aeth Brythoniaid mewnfudo ag iaith Frythonaidd i'r cyfandir, mwyaf arwyddocaol yn [[Llydaw]]. Yn ystod y rhai canrifoedd nesaf, dechreuodd yr iaith i rannu i mewn i sawl tafodiaith, gan ddatblygu o'r diwedd i mewn i'r [[Iaith Gymraeg|Gymraeg]], [[Iaith Gernyweg|Cernyweg]], [[Iaith Lydaweg|Llydaweg]], a [[Iaith Gymbrieg|Chymbrieg]]. Siaradir y Gymraeg a Llydaweg o hyd fel ieithoedd brodorol, tra bod diwygiad yn yr iaith Gernyweg wedi arwain i gynnydd mewn siaradwyr o'r iaith honno. Mae Cymbrieg yn ddiflanedig, gal gael ei disodli gyda [[Ieithoedd Goidelaidd|Goideleg]] a [[Iaith Saesneg|Saesneg]]. Efallai'r oedd gan [[Ynys Manaw]] iaith Frythonaidd a gafodd ei disodli ag un Goidelaidd. Oherwydd allfudo, ceir hefyd cymunedau o siaradwyr ieithoedd Brythonaidd yn [[Lloegr]], [[Ffrainc]], a'r [[Y Wladfa |Wladfa yn Argentina]].
 
==Tras y Frythoneg==
Roedd ieithyddion cynnar yn amau a oedd ieithoedd teulu'r Frythoneg yn perthyn i deulu'r ieithoedd [[Indo-Ewropeaidd]] oherwydd eu gramadeg a'u geirfa estron. Erbyn heddiw mae'r cysylltiad rhwng y Frythoneg a'r [[Goideleg]], ill dwy yn disgyn o'r Gelteg, wedi ei disgrifio'n helaeth. Disgrifir yr ieithoedd Celteg a siaredid ar Ynys Prydain ac Iwerddon fel ieithoedd y Gelteg Ynysig. Ymhlith hynodion gramadeg disgynyddion y teulu hwn y mae treiglo ac arddodiaid rhediadol. Mae ieithyddion wedi awgrymu mai olion iaith frodorol Ynys Prydain ac Iwerddon yw'r nodweddion hynod yma. Ond gan nad yw ieithoedd Celtaidd eraill Ewrop wedi goroesi nid yw'n bosib cymharu disgynyddion ieithyddol byw Ynysig y Gelteg YnysigCeltiaid gyda disgynyddion unrhyw gangen arall o'r [[ieithoedd Celtaidd]].
 
Ni wyddys i sicrwydd o ba le na sut na phryd y cyrhaeddodd iaith Geltaidd Ynys Prydain. Ymhlith y niferoedd lawer o ddamcaniaethau hawlia rhai arbenigwyr fod y Celtiaid wedi cyrraedd tua 2000 CC. Dadleua eraill iddynt gyrraedd Prydain ac Iwerddon ynghynt fyth gyda lledaeniad [[amaethyddiaeth]] ar draws [[Ewrop]]. Dadleua eraill bod goresgynwyr Celtaidd wedi dod â’u diwylliant a’u hiaith ganddynt wedi 700 CC, gan ddisodli’r brodorion, er bod tystiolaeth enetig erbyn hyn i wrthddweud y syniad hwn. Y ddamcaniaeth a gaiff y gefnogaeth fwyaf ar hyn o bryd yw’r ddamcaniaeth mai'r iaith Geltaidd a'i diwylliant a ymledodd yn hytrach na'r bobl. Ymledodd yn raddol ar draws rhannau helaeth o [[Ewrop]], gan gael ei chymathu gan y brodorion. <ref name=Hanescymru> John Davies, ''Hanes Cymru'' (The Penguin Press, 1990) </ref> Tybir y gallasai masnachwyr yr Ewrop Atlantigyr Iwerydd yng nghanrifoedd olaf Oes y Pres fod yn ffactor bwysig yn y lledu hwn, gan iddynt efallai ddefnyddio Celteg yn '[[lingua franca]]'.
 
Fe wyddys mai'r Frythoneg oedd iaith y rhan fwyaf o Ynys Prydain erbyn dyfodiad y [[Rhufeiniaid]] yn y ganrif gyntaf. Nid oes neb yn siŵr a siaradai'r Pictiaid yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban iaith cyn-Gelteg ynteu Gelteg. Erbyn hyn dadleua mwyafrif yr ysgolheigion mai iaith Gelteg a siaradai'r Pictiaid. Mae'n bosib hefyd mai iaith Goideleg a siaredid yn y rhannau o arfordir Gorllewin yr Alban sy'n agos at Ogledd Iwerddon.
Llinell 19 ⟶ 22:
==Disgynyddion y Frythoneg==
===Ymwahanu'r Frythoneg===
Bu i dafodieithoedd y [[Brythoneg|Frythoneg]] ddechrau ymwahanu'n ieithoedd gwahanol pan dorrwyd eu hundod daearyddol gan fewnlifiad y Saeson. Torrwyd y cysylltiad rhwng Cymru a Chernyw yn ystod y ganrif a ddilynodd buddugoliaeth y Saeson ym [[Brwydr Dyrham|mrwydr Dyrham]] yn 577. Datblygodd y [[Cernyweg|Gernyweg]] a'r Gymraeg ar wahân. Ymfudodd carfannau o DeDde Lloegr i [[Llydaw|Lydaw]] ar wahanol adegau. Ymwahanodd eu hiaith hwythau oddi wrth y Frythoneg neu'r Gernyweg gan esgor ar [[Llydaweg|Lydaweg]]. Torrwyd y cysylltiad â'r Hen Ogledd pan ymestynnodd brenhiniaeth Northumbria hyd at yr arfordir gorllewinol, tua chanol y 7fed ganrif. <ref name=Hanescymru> John Davies, ''Hanes Cymru'' (The Penguin Press, 1990) </ref> Datblygodd [[Hen Gymraeg]] yr Hen Ogledd ar wahân i'r Gymraeg tan iddi golli'r dydd i'r Saesneg rywbryd wedi goresgyniad tywysogaethau'r Hen Ogledd. [[Cymbrieg]] yw enw'r ieithyddion ar yr iaith hon, ac mae ei hôl i'w chlywed ar dafodiaith Saesneg pobl Cymbria hyd heddiw.
 
Ar [[Ynys Manaw]] ac yng Ngorllewin [[yr Alban]] dadleolwyd yr ieithoedd Brythoneg gan ieithoedd [[Goideleg]]. Yn Lloegr, De a Dwyrain yr Alban disodlwyd yr ieithoedd Brythoneg gan Saesneg.
Llinell 26 ⟶ 29:
 
===Cymharu datblygiad ieithoedd teulu'r Frythoneg===
Nid ysgrifennwyd y Gernyweg na'r Llydaweg cyn gynhared â'r Gymraeg ac ni chafwyd cyhoeddi Beiblau yn eu hieithoedd nac esgor ar wasg argraffu llyfrau cyn gynhared ag y gwnaed yng Nghymru (ym [[1827]] yr ymddangosodd y Testament Newydd yn Llydaweg). Diflannu fubu tynged y Gernyweg erbyn diwedd y [[18fed ganrif]] ond bod adfywiad wedi digwydd yn hanner olaf yr [[20fed ganrif]] ymhlith rhai sy'n frwdfrydig dros yr iaith. Amcangyfrifir bod rhyw 1,400,000 o siaradwyr Llydaweg ar ddechrau'r 20fed ganrif, rhyw 900,000 ohonynt yn siaradwyr Llydaweg uniaith, ond erbyn heddiw prinnach o lawer yw'r siaradwyr Llydaweg, yn enwedig ymysg yr ifainc. Mae'r rhesymau am y dirywiad yn cynnwys polisïau llawdrwm llywodraeth Ffrainc, yn enwedig wedi'r ail ryfel byd yn sgil sefydlu rhai ysgolion Llydaweg eu cyfrwng am y tro cyntaf erioed o dan nawdd y [[Natsïaid]]. Dim ond yn ddiweddar y mae'r llywodraeth wedi llunio polisïau caredicach at y Llydaweg a'r ieithoedd eraill llai eu defnydd ond hirhoedlog o fewn ffiniau [[Ffrainc]]. <ref>''Eu Hiaith a Gadwant?'', Goln Geraint H. Jenkins a Mari A. Williams, tud. 596-605 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)</ref>
 
==Dylanwad y Frythoneg ar Saesneg==
Mae rhai ieithyddion yn dadlau bod y Frythoneg wedi cael peth dylanwad ar [[gramadeg|ramadeg]] y [[Saesneg]]. Dadleuant fod y duedd i ddefnyddio'r berfau "bod" a "gwneud" fel berfau cyfnerthu yn nodweddiadol o'r [[ieithoedd Celtaidd]] yn gyffredinol ac fe welir y duedd hon yn Saesneg yn llawer yn fwy amlwg nag yn [[ieithoedd GermanaiddAlmaenaidd]] eraill. Mae yna hefyd eiriau Brythoneg yn Saesneg. Enghraifft o hyn yw'r gair Saesneg ''Corgi'' a ddaw o'r Gymraeg "CorachCorrach gi".
 
==Ffynonellau==
{{cyfeiriadau}}
<references/>
 
{{Ieithoedd_Celtaidd}}