Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: it:Prydain
B iaith
Llinell 1:
Y maeMae '''Ynys Brydain''' (hefyd : '''Ynys Prydain''', weithiau '''Prydain''') yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y [[Cymry]] yn yr [[Oesoedd Canol]] ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym ''[[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]]'' er enghraifft, yw '''Ynys y Cedyrn'''.
 
Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel [[Prydain Fawr]] ac [[Ynysoedd Prydain]], yn yr un modd â bod gwahaniaeth bwysigpwysig rhwng ystyron yr enwau [[Brythoniaid|Brython]] a [[Prydeindod|PrydeiniwrPhrydeiniwr]]. Nid oedd y [[Brythoniaid]] yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.
 
Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]] a'r cyfnod ôl-[[Rhufeiniaid|Rufeinig]] pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o [[Ystrad Clud]] i'r [[Firth oMoryd Forth]] ([[Glasgow]] - [[Caeredin]]) ym meddiant y [[Brythoniaid]], pobloeddpobl CeltaiddGeltaidd a siaradai'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]]. Daeth y llwythau "[[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]]" (cyndeidiau'r [[Saeson]]) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. MeddianwydMeddiannwyd [[Lloegr]] - ac eithrio [[Cernyw]] - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng [[Gwŷr y Gogledd]] a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent galwalw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ''ynys'' yw 'gwlad', fel yn achos y gair [[Lladin]] ''insula'').
 
Yr oedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] cawn fod [[Bendigeidfran]] yn llyodraethullywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng [[teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] ([[Harlech]], [[Aberffraw]] a [[Segontium|Chaer Saint yn Arfon]]). Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Lludd a Llefelys]]'', cyfeirir at [[Rhydychen|Rydychen]] fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]]" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer [[Branwen]] ym [[Môn]]. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.
 
Ceir cyfeiriadau mor gynnar â [[Nennius]] at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhagynysrhag ynys," sef [[Môn]], [[Ynys Manaw|Manaw]] ac [[Ynys Wyth|Wyth]] (sylwer nad oes sôn am ynysoedd [[yr Alban]]).
 
Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Brydain oedd y [[Mab Darogan]]. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i adfeddianuailfeddianu Ynys Brydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adanbyddiradnabyddir fel y [[brud]]iau neu'r [[canu darogan]] gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. [[Cadwaladr Fendigaid]] oedd brenin olaf Ynys Brydain cyn iddi gael ei meddianumeddiannu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd ''Armes Prydain'' ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y [[10fed ganrif]].
Ceir yn ogystal [[Trioedd Ynys Prydain]], sy'n gorff o drioedd mnemonignemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Brydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.
 
==Llyfryddiaeth==