Francisco Suárez: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B s
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Diwinyddiaeth Babyddol|Diwinydd Pabyddol]] ac [[athroiaethathroniaeth wleidyddol|athronydd gwleidyddol]] o [[Sbaen]] oedd '''Francisco Suárez''' (5 Ionawr 1548 – 25 Medi 1617). Efe oedd un o brif feddylwyr [[y Gwrth-Ddiwygiad]], ac ymdriniasai ei waith â phynciau'r [[y ddeddf naturiol|ddeddf naturiol]], [[hawliau dynol]], [[sofraniaeth]], a [[brenhiniaeth]]. Yn ei ysgrifau ceir cyfraniad pwysig at [[athroniaeth y gyfraith]] a datblygiad cynnar [[cyfraith ryngwladol]]. Tynna llawer o'i waith ar ddysgeidiaeth Sant [[Tomos o Acwin]], ac os Tomos oedd y cyntaf a'r pwysicaf o'r [[ysgolaeth|athronwyr ysgolaidd]] gellir ystyried Suárez yn yr olaf o'r traddodiad hwnnw ac olynydd mwyaf y Brawd Du o Acwin.
 
Roedd Suárez yn awdur hynod o doreithiog, a seiliai'r mwyafrif o'i gyhoeddiadau ar ei ddarlithoedd. Fe'i ystyrir yn ysgolhaig hyddysg a manwl yn ei ddadleuon. Ymhlith ei brif weithiau mae sylwebaeth mewn pum cyfrol ar y ''Summa Theologica'' gan Domos o Acwin (1590–1603), ''Disputationes Metaphysicae'' (2 chyfrol, 1597), ''De Legibus'' (1612), a ''De Divina Gratia'' (cyhoeddwyd yn 1620 wedi ei farw).