Rhys ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 3:
== Bywyd cynnar ==
 
Yr oedd Rhys yn ail fab i [[Gruffydd ap Rhys]], tywysog rhan o Ddeheubarth, a [[Gwenllian ferch Gruffydd]], chwaer [[Owain Gwynedd]]. Mae'n debygol iddo gael ei eni yn [[Iwerddon]]. Bu farw ei rieni pan oedd Rhys tua phedair oed, Gwenllian ar ôl iddi arwain byddin i ymosod ar gastell Normanaidd [[Castell Cydweli|Cydweli]] yn absenoldeb Gruffydd yn [[1136]], a Gruffydd ei hun y flwyddyn ganlynol. Ei frwad hŷn oedd [[Maredudd ap Gruffydd]], ac yr oedd ganddo ddau frawd iau, Morgan a Maelgwn. Yr oedd ganddo hefyd ddau hanner brawd, [[Anarawd ap Gruffydd|Anarawd]] a [[Cadell ap Gruffydd|Cadell]], ac o leiaf ddwy chwaer, Gwladus a Nest.
 
Yn dilyn marwolaeth ei dad, daeth ei hanner brawd [[Anarawd ap Gruffydd]] yn dywysog Deheubarth. Yn [[1143]], pan oed Rhys yn unarddeg oed, lladdwyd Anarawd trwy dwyll gan wŷr [[Cadwaladr ap Gruffydd]], brawd [[Owain Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Cosbodd Owain ei frawd trwy yrru ei fab [[Hywel ab Owain Gwynedd]] i gymeryd ei diroedd yng Ngheredigion oddi arno.
 
== Brwydrau cyntaf ==