Vitellius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn [[Rhufain]], a daeth yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]] yn [[48]]. Yn ystod teyrnasiad [[Nero]] penodwyd ef yn Broconswl talaith [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]], Yn y flwyddyn 68 penododd yr ymerawdwr [[Galba]] ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith [[Germania Inferior]]. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan [[Vindex|Julius Vindex]], ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar [[2 Ionawr]] 69 cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei [[Lleng Rufeinig|lengoedd]]. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.
 
Ym [[Brwydr gyntaf Bedriacum|mrwydr gyntaf Bedriacum]], gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd [[Otho]], oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn [[hunanladdiad]] Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Yr oedd y llengoedd yn nhlaleithiau [[Judea]] a [[Syria]] wedi cyhoeddi [[Vespasian|Titus Flavius Vespasianus]] yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad [[Antonius Primus]] yn ail frwydr Bedriacum. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.
 
[[Categori:Marwolaethau 69]]