Dafydd ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: it:Dafydd ap Gruffydd |
tacluso |
||
Llinell 1:
Roedd '''Dafydd ap
Yr oedd Dafydd yn fab i [[
Yn [[1255]] ymunodd a'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym [[Brwydr Bryn Derwin|Mrwydr Bryn Derwin]]. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn [[1263]] ymunodd a Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gynnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn [[1267]], adferwyd Dafydd i ffafr LLywelyn eto, omd yn [[1274]] ymunodd a'r brenin [[Edward I o Loegr]] mewn ymgyrch arall yn erbyn LLywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin.
Yr oedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau [[1282]] ymosododd Dafydd ar [[Penarlâg|Penarlâg]], gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Yr oedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes ddiwedd y flwyddyn cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw [[Castell Dolwyddelan]] am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i [[Castell y Bere|Gastell y Bere]], lle bu byddin o dros 3,000 o wyr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill ond llwyddodd Dafydd i ddianc i [[Castell Dolbadarn|Castell Dolbadarn]], cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau
Ar 28 Mefehin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn [[Amwythig]] i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth a'r brenin. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi,
Gyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, lle bu farw yn [[1336]], tra carcharwyd ei feibion Llywelyn ac Owain yng Nghastell [[Bryste]].
|