Ardal golau coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fr:Quartier chaud (prostitution); cosmetic changes
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:RedLightDistrictAmsterdam.jpg|thumb|Right|300px|Ardal golau coch [[Amsterdam]] gyda'r nos]]
Cymdogaeth mewn tref neu ddinas lle mae [[puteindra]] a'r [[diwydiant rhyw]] yn ffynnu yw '''ardal golau coch'''. Bathwyd y term [[Saesneg]] gwreiddiol "''red-light district''" yn yr [[Unol Daleithiau]] yn [[1894]], mewn erthygl yn ''The Sentinel'', papur newydd ym [[Milwaukee]], ond ceir tystiolaeth am fodolaeth ardaloedd o'r math ers gwawr [[gwareiddiad]]. Mae'r term "ardal golau coch" yn fenthyciad diweddar i'r [[Gymraeg]], er bod hen gysylltiad rhwng y lliw [[coch]] a [[rhyw]] yn niwylliant Cymru.
 
Ceir sawl damcaniaeth sy'n ceisio esbonio'r cysylltiad rhwng "goleuadau coch" ac ardaloedd lle gwerthir rhyw a phleserau rhywiol. Arferid hongian llusernau papur coch y tu allan i [[puteindy|buteindai]] yn y [[Tsieina]] hynafol, er enghraifft, er mwyn eu dynodi. Cysylltir y lliw [[coch]] â phuteindra ers canrifoedd lawer. Yn chwedl [[Rahab]] yn y [[Beibl]], mae putain o [[Jericho]] yn cynorthwyo ysbïwyr [[Joshua]] ac yn gadael rhaff o liw ysgarlad yn hongian o'i ffenestr. Ysgarlad yw lliw Hwran Babilon yn ''[[Llyfr y Datguddiad]]'' hefyd. Yn fwy diweddar, yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] roedd yna nifer o buteindai yn [[Ffrainc]] a [[Gwlad Belg]] ar gyfer y milwyr; defnyddid lampiau glas i ddynodi lleoedd ar gyfer y swyddogion a lampiau coch ar gyfer y milwyr cyffredin.
Llinell 19:
[[eu:Auzo gorri]]
[[fi:Punaisten lyhtyjen alue]]
[[fr:Quartier chaud (prostitution)]]
[[gd:Ceàrn dearg]]
[[he:רובע החלונות האדומים]]