Reservoir Dogs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
}}
 
'''''Reservoir Dogs''''' ([[1992]]) oedd [[ffilm]] gyntaf y [[cyfarwyddwr]] a'r ysgrifennwr [[Quentin Tarantino]]. Portreada'r ffilm yr hyn sy'n digwydd cyn ac ar ôl i ladrad o [[gemau|emau]] fynd o'i le. Mae'r ffilm yn serennu [[Harvey Keitel]], [[Steve Buscemi]], [[Tim Roth]], [[Michael Madsen]], [[Quentin Tarantino]], [[Eddie Bunker]], [[Chris Penn]] a [[Lawrence Tierney]]. Roedd gan Tarantino rôl fechan yn y ffilm. Amlyga'r ffilm nifer o themâu ac elfennau gweledol sydd wedi dod yn nodweddiadol o waith Tarantino: troseddau treisgar, cyfeiriadau at [[diwylliant loly pop|ddiwylliant pop]], deialog cofiadwy, iaith gref a llinnyn stori na sydd yn unionlin.
 
Ystyrir y ffilm yn glasur ym myd ffilmiau annibynol ac yn lwyddiant [[cwlt]]. Enwyd y ffilm y "Ffilm Annibynol Gorau Erioed" gan gylchgrawn ''[[Empire (cylchgrawn)|Empire]]''. Derbyniodd y ffilm feriniadaethau canmoladwy a chanmolwyd y cast. Er na hyrwyddwyd y ffilm lawer pan gafodd ei rhyddhau, roedd y ffilm yn lwyddiant cymhedrol, gan wneud $2,832,029, ac felly'n ad-ennill y cyllid a wariwyd arni. Fodd bynnag, bu'r ffilm yn lwyddiant ysgubol yn y [[Deyrnas Unedig]]; gwnaeth £6.5 miliwn yn y swyddfa docynnau a chynyddodd ei phoblogrwydd yn sgîl llwyddiant y ffilm [[Pulp Fiction (ffilm)|Pulp Fiction]], hefyd gan Tarantino. Yn aml, beirniedir y ffilm am y trais a'r rhegfeydd a gynhwysir, a dywedir i aelodau o'r gynulleidfa gerdded allan yn ystod golygfa o [[artaith]].