Dydd y Cofio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Remembrance Day"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:17, 11 Tachwedd 2018

Dydd y Cofio neu Dydd y Coffa yw'r diwrnod a ddynodir i goffau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r rhai a laddwyd yn y gwrthdaro hwnnw. Tarddodd Dydd y Cofio o Ddydd y Cadoediad, sy'n cael ei gynnal ar 11 Tachwedd am mai ar y dyddiad hwnnw y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn 1918. Peidiodd yr ymladd yn ffurfiol ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed diwrnod ar ddeg, ar yr unfed mis ar ddeg, yn unol a'r cadoediad a arwyddwyd gan gynrychiolwyr yr Almaen a'r Entente rhwng 5ː12 a 5ː20 y bore hwnnw. Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn swyddogol gydag arwyddo Cytundeb Versailles ar 28 Mehefin 1919.[1]

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf i gofnodi'r dyddiad gan frenin Lloegr George V. Cynhaliwyd gwledd ym Mhalas Buckingham ar 10 Tachwedd 1919 i anrhydeddu Arlywydd Ffrainc, a Dydd y Cadoediad ar dir y palas y bore canlynol. Mae'n cael ei weld fel achlysur sy'n cael ei nodi yng ngwledydd y Gymanwlad yn benodol. Yn Iwerddon, er enghraifft, cynhelir Diwrnod Cenedlaethol o Goffhad ym mis Gorffennaf. Er i nifer o Wyddelod ymladd ym myddin Prydain, mae Dydd y Cofio wedi bod yn destun dadleuol yno. Yn Nghymru, mae Sul y Cofio yn cael ei gynnal ar y dydd Sul agosaf at 11 Tachwedd. Cynhelir gwasanaethau coffa ar y dyddiad hwnnw, yn aml wrth gofebau. Bydd munud neu ddau funud o ddistawrwydd yn aml yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau, gyda'i ddechrau a'i ddiwedd yn cael eu nodi gan swn penodol.

Daeth y pabi coch yn arwydd Dydd y Cofio oherwydd y gerdd "In Flanders Fields" gan y meddyg o Ganada Lefftenant-Cyrnol John McCrae. Ar ol darllen y gerdd, ysgrifennodd yr Athro Moina Michael o Brifysgol Georgia y gerdd "We Shall Keep the Faith," a gwneud adduned i wisgo'r pabi coch ar y dyddiad hwnnw. Ymledodd yr arferiad trwy Ewrop a gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad o fewn tair blynedd. Bu Madame Anne E. Guerin yn hyrwyddo'r arferiad yn ddiflino yn Ewrop a gwledydd y Gymanwlad. Yng ngwledydd Prydain, aeth yr Uwch-gapten George Howson ati i feithrin yr achos gyda chefnogaeth y Cadfridog Haig. Gwisgwyd pabi am y tro cyntaf yn seremoni 1921. Gwisgwyd pabi go iawn i ddechrau. Roedd y pabi yn blodeuo ar draws rhai o'r meysydd a welodd frwydro ffyrnig yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y lliw coch yn symbol o'r gwaed a dywalltwyd yn y rhyfel.


Cyfeirnodau

  1. "World War I Ended With the Treaty of Versailles".