Philip Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
gwybodaeth amdano fel sant
Llinell 6:
| nationality = {{banergwlad|Cymru}}
}}
Mynach o [[Urdd Sant Benedict]] a merthyr [[Eglwys Gatholig|Catholig]] Cymreig oedd y Gwynfydedig '''Philip Powell''' ([[2 Chwefror]] [[1594]] - [[30 Mehefin]] [[1646]]).
 
Ganed ef yn y Trallwng (efallai Trallwng Cynfyn), [[Sir Frycheiniog]] , yn fab i Roger ap Rosser Powell a Catherine Morgan. Aeth i ysgol ramadeg [[Y Fenni]], ac yna bu'n astudio'r gyfraith o [[1610]] hyd [[1614]]. Wedi hynny bu'n astudio yn [[Fflandrys]] ym Mhrifysgol [[Louvain]] hyd [[1619]]. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn [[1618]], a daeth yn fynach y flwyddyn wedyn. Bu'n astudio dan Dom [[Leander Jones]]. Bu'n ''cellerarius'' priordy Sant Gregori, [[Douai]], hyd ddechrau [[1622]], pan anfonwyd ef i [[Loegr]] i genhadu. Bu'n byw yn [[Llundain]] am gyfnod, yna'n gaplan i nifer o deuluoedd [[Dyfnaint]] a [[Gwlad yr Haf]].
 
Pan ddechreuodd [[Rhyfel Cartref Lloegr]], bu'n gaplan i filwyr Catholig ym myddin y Cadfridog Goring yng [[Cernyw|Nghernyw]]. Pan orchfygwyd y fyddin honno, cymerodd long i dde Cymru. Cipiwyd y llong gan y Seneddwyr ger y [[Mwmbwls]] ar [[22 Chwefror]] [[1646]], a chymerwyd Powell i'r ddalfa fel offeiriad. Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Llundain am fod yn offeiriad Pabyddol, ac fe'i dienyddiwyd trwy ei [[Crogi, diberfeddu a chwarteru|grogi, diberfeddu a'i chwarteru]] yn [[Tyburn]] ar [[30 Mehefin]]. Ym 1929 gwynfydwyd ef gan y Pab Piws XI.
 
{{Authority control}}