Athro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ben Bore yn dadwneud y golygiad 666785 gan Y wiwer wen Mwy addas yn erthygl Addysg yng Nghymru? Oes ffynhonell?
Llinell 1:
Ym myd [[addysg]], mae '''athro''' neu '''athrawes''' yn berson sy'n addysgu eraill. Gelwir athro sy'n addysgu unigolyn yn diwtor personol. Yn aml, mae rôl athro yn ffurfiol a pharhaus, a chaiff ei wneud fel swydd neu broffesiwn mewn [[ysgol]] neu leoliad addysgol ffurfiol arall. Mewn nifer o wledydd, rhaid i berson sy'n dymuno gweithio fel athro yn un o ysgolion y wladwriaeth feddu ar gymwysterau proffesiynol a allai gynnwys addysgeg, sef y gwyddoniaeth o addysgu. Gall athrawon ddefnyddio cynllun gwers er mwyn cynorthwyo dysgu'r disgybl, gan ddarparu cwrs astudio sy'n ymdrin â'r cwricwlwm safonedig. Amrywia rôl yr athro mewn gwahanol ddiwylliannau. Addysga athrawon [[llythrennedd|lythrennedd]] a [[rhifedd]], neu rhai o bynciau eraill yr ysgol. Gall athrawon eraill ddarparu cyfarwyddyd mewn crefft benodol neu hyfforddiant [[galwedigaeth|galwedigaethol]], y Celfyddydau, crefydd, dinasyddiaeth, dyletswyddau cymdeithasol neu sgiliau bywyd. Mewn rhai gwledydd, gellir darparu addysg ffurfiol yn y cartref.
 
Yng Nghymru, defnyddir y term 'athro' (neu 'athro prifysgol') i gyfeirio at brif ddarlithydd mewn [[prifysgol]] neu uwch-academydd sy'n gyfrifol am adran benodol. Mae rhaid i athrawon sydd am addysgu mewn ysgolion gynradd yn rhai ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru fedru'r Gymraeg i ryw lefel, hyd yn oed os mai mewn ysgolion Saesneg ydyn nhw am addysgu. Mae'r polisi hwn yn creu llawer o wrthwynebiad a chwynion diangen ac osgoadwy yn erbyn yr iaith o athrawon Saesneg eu hiaith.
 
{{eginyn}}