Cellfur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dolenni
Llinell 1:
Haen strwythurol o gwmpas rhai mathau o gelloedd yw '''cellfur''', y tu allan i'r [[gellbilen]]. Gall fod yn wydn, yn hyblyg, ac weithiau'n anhyblyg. Mae'n darparu'r gell gyda chefnogaeth strwythurol ac amddiffyniad, ac mae hefyd yn gweithredu fel mecanwaith hidlo. Mae waliau celloedd yn bresennol yn y rhan fwyaf o brotariotau (heblaw am facteria mycoplasma), algâu, [[Planhigyn|planhigion]] a ffyngauf[[Ffyngau|fyngau]], ond anaml iawn mewn ewcaryotau eraill gan gynnwys anifeiliaid. Prif swyddogaeth y gellfur yw i weithredu fel cynhwysydd gwasgedd, gan atal gor-ehangiad y gell pan ddaw dŵr i mewn, drwy [[osmosis]].
 
Mae cyfansoddiad cellfuriau yn amrywio rhwng rhywogaethau a gall ddibynnu ar y math o gell a'r cam mewn datblygiad. Ffurfir cellfuriau cynradd celloedd planhigion tir o'r polysaccharidau; [[cellwlos]], hemicellwlos a [[Pectin|phectin]]. Yn aml, mae polymerau eraill fel lignin, suberin neu cutin yn cael eu hymsefydlu mewn waliau cell planhigion.