Iarlles y Ffynnon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fr:Owein; cosmetic changes
Llinell 5:
Ceir y testun yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] a [[Llyfr Coch Hergest]]. Ceir testun rhannol mewn llawysgrif arall, ''Jesus Colleg Oxford MS. XX'' (yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen). Dim ond y Llyfr Coch sy'n cadw'r testun cyflawn. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' a ''[[Geraint ac Enid]]''.
 
Mae'r chwedl yn cyfateb i chwedl ''Yvain ou le Chevalier au lion'' gan yr awdwr [[Ffrangeg]] [[Chrétien de Troyes]] o ail hanner y [[12fed ganrif]]. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn.
 
Yn y chwedl mae Owain, cymeriad sy'n seiliedig ar yr arwr [[Owain fab Urien]] o'r [[Hen Ogledd]], yn priodi Iarlles y Ffynnon gyda chymorth ei llawforwyn [[Luned]]. Ar ôl tair blynedd yn amddiffyn y ffynnon, mae'n cael caniatad yr Iarlles i dreulio tri mis yn llys [[Arthur]]. Wedi cyrraedd yno, mae'n anghofio popeth am ei wraig ac yn aros am dair blynedd. Mae ei wraig yn ei ddiarddel ac Owain yn mynd yn wallgof am gyfnod, ond gyda chymorth llew y mae wedi ei achub mae'n mynd trwy gyfres o anturiaethau yn llwyddiannus ac yn adennill ei wraig.
 
== Llyfryddiaeth ==
=== Testunau ===
* R. L. Thomson (gol.), ''Owein or Chwedyl Iarlles y Ffynnawn'' (Dulyn, 1986). Golygiad o'r testun gwreiddiol, gyda nodiadau.
* ''Y Tair Rhamant''- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.
=== Darllen pellach ===
* Stephens, Meic (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN: 0-7083-0915-1
 
Llinell 25:
 
[[en:Owain, or the Lady of the Fountain]]
[[fr:Owein]]
[[fr:Owain, ou la dame à la fontaine]]