Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ursula"

No change in size ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(buchedd)
Santes [[Brythoniaid|Frythonig]] oedd '''Ursula''' ([[Lladin]], yn golygu "arthes fechan"). Ei dydd gŵyl yw [[21 Hydref]].
 
Y chwedl yw ei bod yn dywysgoges o deyrnas [[Dumnonia]] ([[Dyfnaint]]). Ar gais ei thad, hwyliodd am [[Llydaw|Lydaw]] at ei darpar-ŵr [[Cynan Meiriadog]], gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau [[Gâl]] mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar [[bererindod]]. Aeth i ddinas [[Rhufain]], ac yna ymlaen i ddinas [[Cwlen]], oedd dan warchae gan yr [[Hyniaid]]. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd UrsulaWrswla ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua [[383]].
 
Ym Masilica y Santes UrsulaWrswla yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion UrsulaWrswla a'r gwyryfon. Mae eglwys [[Llangwyryfon]] yn Sir [[Ceredigion]] wedi ei chysegru iddynt, a gall fod y Lleucu sy'n nawddsant [[Betws Leucu]] yn yr un sir yr un person a Lucia, un o gymdeithion Ursula.
 
==Buchedd==
Defnyddiwr anhysbys