Caer Drewyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
petrual
Llinell 9:
Mae'r gaer ddiweddarach yn cynnwys gwrthglawdd anferth o gerrig gyda mynedfeydd ar yr ochr orllewinol a'r ochr gogledd-ddwyreiniol. Ceir celloedd i warchod ygaer wedi'u hailadeiladu ym mynedfa'r gogledd-ddwyrain. Roedd llwybr o gwmpas y muriau. Rhed ffos ddofn oddi amgylch y cyfan. Mae'r gwaith hwn yn debyg iawn i'r hyn a geir ym mryngaer fawr [[Tre'r Ceiri]] a lleoedd eraill yn [[Llŷn]].
 
Yn ddiweddarach ychwanegwyd clostir trionglog, yn ôl pob tebyg yn ystod y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|cyfnod Rhufeinig]] neu'n fuan ar ôl hynny. Ceir gweddillion [[cytiau Gwyddelod|cytiau crwn o gerrig]] tu mewn; ceir olion sy'n awgrymu adeiladau hirsgwârpetrual ar bedwar postyn yn ogystal. Yn y gornel ogledd-ddwyreiniol gwelir olion llwyfannau tai.
 
Yn ddiweddarach eto codwyd tai bychain canoloesol ar lwyfannau wrth fynedfa orllewinol y fryngaer, ond nid oes unrhyw dystiolaeth fod y gaer ei hun yn cael ei defnyddio yn y cyfnod hwnnw.