Wicipedia:Fandaliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
fandaliaeth
Y wiwer wen (sgwrs | cyfraniadau)
fandaliaeth
Llinell 3:
Ni ystyrir unrhyw weithred a wneir er mwyn ceisio gwella'r prosiect yn fandaliaeth, hyd yn oed os yw'n anghywir. Ni ystyrir golygiadau niweidiol na wnaed yn fwriadol yn fandaliaeth. Er enghraifft, ni fyddai ychwanegu safbwynt personol dadleuol i erthygl unwaith yn fandaliaeth; fodd bynnag, byddai ailosod y safbwynt honno dro ar ôl tro, er gwaethaf sawl rhybudd, yn fandaliaeth. Nid yw pob enghraifft o fandaliaeth yn amlwg, ac nid yw pob newid mawr neu ddadleuol i dudalen yn fandaliaeth: rhaid talu sylw agos iawn i weld a yw'r wybodaeth neu ddata newydd yn gywir neu a yw'n fandaliaeth. Mae angen meddwl yn ofalus a yw'r golygiadau'n fuddiol, niweidiol ond gydag ewyllys da, neu fandaliaeth bur.
 
Mae fandaleiddio tudalen yn groes i bolisi Wicipedia; rhaid i bobl sylwi arno a delio ag ef; os nad ydych yn medru delio â'r fandaliaeth eich hun, gofynnwch am gymorth wrth bobl ddefnyddwyr eraill. Os welwch chi fod defnyddiwr arall wedi bod yn fandaleiddio Wicipedia, dylech wrthdroi'r newidiadau hyn yn syth; dylech rybuddio'r defnyddiwr hefyd (gweler isod am gyfarwyddiadau penodol.) Dylid rhoi gwybod i [[Wicipedia:Ymyrraeth gweinyddwr yn erbyn fandaliaeth]] os yw defnyddiwr yn fandaleiddio Wicipedia'n barhaus, er gwaethaf rhybuddion i beidio, a gall gweinyddwyr eu blocio. Sylwer nad oes angen rhoi rhybudd bob tro; gellir blocio cyfrifon sydd wedi'u creu er mwyn fandaleiddio heb rybudd.
 
==Delio â fandaliaeth==