Elis Gruffydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''Elis Gruffydd''' (c.[[1490]]-c.[[1552]]), a lysenwyd '''"Y Milwr o Galais,"''' yn groniclydd Cymraeg, copïydd a chyfieithydd, a aned yn [[Llanasa]], [[Sir Fflint]]. Mae Elis Gruffydd yn adnabyddus yn bennaf fel lluniawr y gronicl anferth ''Cronicl Chwech Oes y Byd'', sy'n cynnwys y testun hynaf ar glawr o ''[[Hanes Taliesin]]'', sy'n adrodd hynt a helynt y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]].
 
Prin ac ansicr yw'r dystiolaeth am ei fywyd cynnar. Cafodd ei fagu yn Sir Fflint ac yn nes ymlaen llwyddodd i ennill lle yng ngwasanaeth teulu Wingfield yn [[Llundain]]. Aeth drosodd i [[Ffrainc]] gyda Syr Robert Wingfield a bu'n dyst i [[Maes y Brethyn Euraidd|Faes y Brethyn Euraidd]], ger [[Calais]], yn [[1520]]. Treuliodd y cyfnod o [[1524]] hyd [[1529]] fel ceidwad plas y teulu Wingfield yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwnnw copïodd nifer o hen [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymraeg]], yn cynnwys [[buchedd]]au'r saint a ''[[Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain]]''. Gwyddys iddo ddychwelyd i Galais fel milwr yn y garsiwn Seisnig yno. Bu ganddo ddigon o hamdden i dreulio'r rhan fwyaf o'i amser yn copïo a chyfieithu nifer o lawysgrifau (o lyfrgell teulu Wingfield yn ôl pob tebyg). Yno hefyd, mae'n debyg, yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o destun ei ''Gronicl o Chwech Oes y Byd''. Ni wyddys pryd yn union y bu farw, ond [[1552]] yw'r dyddiad olaf yn ei gronicl, a thybir iddo farw yn fuan wedyn, yng Nghalais. Er bod posibilrwydd ei fod dal yno pan ailgymerwyailgymerwyd y ddinas gan y Ffrancod ym 1558.
 
Dim ond pytiau o waith Elis Gruffydd a gyhoeddwyd hyd yn hyn. Cyhoeddwyd rhannau o'i ''Gronicl'' o bryd i'w gilydd, yn cynnwys ''Ystoria Taliesin'' (''[[Hanes Taliesin]]''), disgrifiadau o ddigwyddiadau hanesyddol yn ei oes, ac ambell chwedl fel 'Chwedl [[Huail fab Caw|Huaw ap Caw]] ac [[Arthur]]', 'Chwedl [[Myrddin]]' a 'Gwraig [[Maelgwn Gwynedd|Maelgwn]] a'r Fodrwy', a 'Hanes Llywelyn ap Iorwerth a Chynwrig Goch o Drefriw'. Cyhoeddwyd yn ogystal ei gyfieithiad o'r llyfr meddygol cyfoes ''Castell yr Iechyd''. Mae iaith ac arddull yr awdur yn unigryw a'i waith yn ddarllenadwy iawn. Barn [[J. Gwenogvryn Evans]] amdano oedd ei fod "y rhyddiaith fwyaf darllenadwy yn y Gymraeg ar ôl y Mabinogion."